• Cymru 4 Croatia 0 5/4/2024

    Ar ôl y siom o’r dynion yn methu cynhwyso Ewro 2024, dyn ni’n dibynnu ar y tîm merched i droi pethau o gwmpas a chyrraedd eu pencampwriaeth gyntaf erioed. Mae’r FAW wedi dewis y Cae Ras fel y lleoliad i gychwyn eu hymgyrch rhagbrofol Ewro 2025 (yn cael ei gynnal yn Y Swistir). Mae’r system ragbrofol yn fwy cymhleth nag arfer – mae tair haen ac yn Lefel A bydd dau dîm yn cymhwyso’n uniongyrchol o bob grŵp. Yn anffodus mae Cymru’n chwarae yn Lefel B, felly hyd yn oed tasai Cymru’n ennill eu grŵp bydd angen i chwarae yn ddau rownd o gemau ail-gyfle i gyrraedd y bencampwriaeth. Mae’n i weld i mi fel system i benderfynu pwy sy’n chwarae heb gymaint o drafferth i’r gewri, a dw i ddim yn cytuno â dulliau fel hyn. Ond bydd Cymru’n rhan o’r gemau ail-gyfle beth bynnag tasen nhw’n osgoi’r safle gwaelod – basech chi’n gobeithio bydd hi’n bosib heb drafferth.

    Mae’r tîm wedi wynebu heriau annisgwyl yn ddiweddar. Enillon nhw ddim ond un pwynt yn eu hymgyrch cyntaf yn y Gynghrair Genhedloedd Lefel A (canlyniad da iawn i gyfartalu 0-0 yn erbyn Yr Almaen) felly bydd y tîm yn chwarae yn Lefel B y tro nesa. Ond roedd syndod i weld y rheolwr Gemma Grainger yn ymddiswyddo a chymryd y swydd fel rheolwr Norwy. Gwnaeth hi swydd dda – roedd y tîm yn anffodus i golli allan o’r Cwpan y Byd – ond teimlodd llawer o bobl bod daeth y tîm yn ddiflas. Doedd y tîm ddim yn gyffrous i wylio ac roedd synnwyr bod hi’n rhy anodd i gael cyfle i chwarae tasech chi’n allan o’r tîm. Falle mae’r swydd Norwy wedi bod y canlyniad gorau i Grainger a’r tîm Cymru ar yr un pryd.

    Rhian Wilkinson ydy’r rheolwr newydd. Mae hi’n chwaraewr profiadol iawn efo 181  o gapiau Canada (mae ei henw hi’n dod o’i fam Cymraes! Hefyd treuliodd hi amser yn Y Bont-faen fel plentyn). Mae hi wedi gweithio fel cynorthwywr i’r timau Lloegr a Phrydain Gemau Olympaidd, a’i swydd olaf oedd fel rheolwr Portland Thorns, yn ennill y bencampwriaeth NWSL yn 2022. Ond roedd rhaid iddi hi adael y swydd pan ofynnodd y chwaraewyr am ei ymddiswyddiad wedi’r llwyddiant. Mae’n ddiddorol i apwyntio rhywun ar ôl sefyllfa ddadleuol, yn enwedig ar ôl beth ddigwyddodd i Ryan Giggs fel rheolwr o’r tîm dynion cenedlaethol. Ond mi gaeth hi ei chlirio o gamymddwyn, a dw i ddim yn siŵr dylen ni gymharu’r ddwy sefyllfa. Allai Cymru ddim denu rhywun efo ei CV mewn amgylchiadau arferol yn fy marn i – gobeithio mae hi’n gallu ail-adeiladu ei gyrfa yma. 

    Fy ngêm merched erioed oedd y gêm gyfeillgar rhwng Cymru ac Estonia yn y Cae Ras dim ond un wythnos cyn y cyfnod clo cyntaf yn 2020 (felly’r gôl gan Nadia Lawrence oedd fy ngôl olaf wedi’i gweld am chwe mis). Dw i wedi disgwyl y tîm i ddychwelyd yn gynharach na hyn achos roedd cyhoeddiad am gêm merched Cymru yn y Cae Ras ym mis Mawrth 2023…ond doedd hi ddim yn digwydd heb esboniad. Roedd achlust am CPD Wrecsam yn gwrthod y gêm i ddiogelu’r cae ond mae dyletswydd efo’r clwb i gynnal gemau fel hyn yng Ngogledd Cymru. Roedd 2000 o bobl yn mynychu’r gêm yn 2020 yn chwarae £5, ar ôl daeth 1000 i wylio’r gêm merched rhyngwladol yn Wrecsam yn erbyn Israel yn 2012, efo mynediad am ddim. Felly mae’r dorf o 4100 yn talu £10 i weld y gêm ‘ma yn dangos gwelliant, gobeithio mae’r FAW yn cytuno ac yn dod â’r tîm yn ôl i Wrecsam eto cyn bo hir (bydd y gemau eraill yn y grŵp yn digwydd yn Llanelli).

    Croatia oedd yr ymwelwyr i brofi Rhian Wilkinson yn ei gêm gyntaf. Achos byddan nhw yn Lefel B yn y Gynghrair Genhedloedd nesa, ac yn ddiweddar maen nhw wedi stryglo sgorio’n aml (tebyg i Gymru), ro’n i’n disgwyl gêm gystadleuol a’r amddiffynwyr yn dominyddu. Ond yn yr hanner cyntaf mi gaeth Croatia lawer o gyfleoedd i ymarfer amddiffyn. Dechreuodd Cymru’n gyflym, un y pum munud agored roedd Angharad James yn agos o flaen y gôl, un ergyd heibio’r postyn gan Rachel Rowe, cyn i Rowe yn dod o hyd Jess Fishlock yn ofod i rolio’r gôl gyntaf heibio’r gôl-geidwad. Roedd hi’n anodd i orfodi gymaint o arbediadau am weddill yr hanner ond roedd Cymru’n amyneddgar ac yn dominyddu’r meddiant, efo Rowe ac Ella Powell yn beryglus ar y dde. Falle gallai Elise Hughes yn well efo peniad cyn yr egwyl, ond roedd Cymru’n gyfforddus, wrth Croatia’n stryglo dianc eu hanner.

    Daeth Ffion Morgan ar y cae am yr ail hanner yn lle Powell (anffodus iddi hi) a gwnaeth Cymru’r niwed ymhen deg munud. Sgoriodd Fishlock yr ail hefyd ar ôl iddi hi ddilyn ei hergyd ei hun oddi ar y trawst i benio yn y gôl wag, ac un munud yn ddiweddar sgoriodd Rowe wedi symudiad cyflym i goroni perfformiad werth seren y gêm. Daeth y pedwerydd cyn bo hir ar ôl i James siglo at y postyn pellach i orffen wedi pas hir. Doedd dim byd i wneud i’r ymwelwyr heblaw gobeithio am drugaredd – a gwneud trosedd neu ddau. Roedd Cymru’n fodlon i reoli gweddill y gêm a gwneud eilyddion. Roedd  perfformiad bywiog Ceri Holland yn nodedig oddi ar y fainc, ac roedd hi’n anffodus i weld ergyd o bell yn taro’r trawst. Doedd dim ymateb ymosodol o Croatia o gwbl, ond Gemma Evans oedd yn effeithiol i dorri unrhyw gwrthymosod. Felly buddugoliaeth hawdd i gychwyn cyfnod ac ymgyrch newydd i Gymru.

    Mae’r wythnos yng Ngogledd Cymru wedi bod yn bositif i’r tîm, efo’r ffocws ar ferched lleol Elise Hughes a Rhiannon Roberts, cyfle i dimau merched lleol i wylio’r tîm yn ymarfer, a buddugoliaeth o flaen torf annogol. Bydd y tîm yn gobeithio i ennill eto ar ddydd Mawrth yn Kosovo, sydd wedi colli yn erbyn Wcráin i gychwyn. Dewch yn ôl i Wrecsam cyn bo hir merched!

    SUMMARY SAESNEG

    Women’s national team crowds continue to move in the right direction. Wales’ performance was an almost perfect mix of dominating the ball and taking chances when on top. Hopefully this is the right job for Rhian Wilkinson to rebuild her career.

  • Y Waun 1 Porthmadog 1 1/4/2024

    Ro’n i’n gobeithio am siwrne dros y ffin i dreulio amser cyn i mi ddychwelyd i’r gwaith ar ôl wythnos i ffwrdd. Does dim byd yn well i anghofio’r teimladau o boeni am beth sy’n aros ymhlith fy e-byst. Mi ges i ddewisiadau oherwydd rhestr lawn o gemau yn Cymru North a llond llaw yn y gynghrair Gogledd Dwyrain Cymru hefyd. Ond mae Whitchurch Alport yn un o fy hoff lleoedd i fynd. Mi es i yno’n union flwyddyn yn ôl, cyd-digwyddiad bach ( https://taithpeldroed.wordpress.com/2023/04/01/whitchurch-alport-2-walsall-wood-1-1-4-2023/ ) ond baswn i’n hapus i fynd yno’n amlach – yn yr erthygl blaenorol trafodais i’r cyfleusterau wych yno, gan gynnwys rhywbeth prin yng Nghymru, terasiad dan do. Ond am unwaith ro’n i eisiau gwneud rhywbeth gwahanol na pori drwy’r problemau yn pêl-droed Cymreig, ond yn mwynhau rhywbeth arall yn ei lle!

    Dylai’r gêm heddiw wedi digwydd yn y Midland League, pum dyrchafiad o’r EFL. Mae’r lleoliad yn apelio i mi ond do’n i ddim yn siŵr am ddisgwyl gymaint o ddrama ar y cae. Doedd y ddau dîm yn mynd i fyny neu i lawr eleni, ac hyd yn oed mae cyfrif Facebook Alport wedi disgrifio’r ymwelwyr Shifnal fel cymdogion, dw i ddim siŵr mae hynny’n wir. Felly ro’n i’n dibynnu ar y gêm ei hun i ddarparu’r adloniant heb destun pwysicach. Falle dylwn i fod yn ddiolchgar am hynny, does dim byd yn fwy dramatig na’r gêm yma yn 2020 pan gyhoeddodd yr arweinwyr Prydeinig yr ail gyfnod clo tra i mi wylio Whitchurch v Skelmersdale yn y glaw…

    Ond daeth y ddrama o rywle arall. Roedd y dydd yn wlyb weithiau, a sylwais i bobl yn gwneud sylwadau am y perygl o’r gêm yn cael ei ohirio. Roedd sylwadau yn y bore yn dweud bod y gêm yn mynd ymlaen, a dim byd arall…cyn i mi gyrraedd Whitchurch a sylwi post gan y clwb o 2:06yh yn ymddiheuro am na fydd y gêm ymlaen. Mae clybiau’n dibynnu ar wirfoddolwyr, ac mae’n gwneud synnwyr i drio cyflawni gemau ym mis Ebrill. Ond dydy o ddim yn dderbyniol i fethu dweud unrhywbeth o gwbl am arolygiad y cae tan i’r dyfarnwr ohirio’r gêm yn hwyr. Basai cyhoeddiad am y peth fod wedi gwneud gwahaniaeth i mi, hyd yn oed am 1:30 neu 2:00. Roedd y clwb yn amddiffynnol ar gyfrwng cymdeithasol ond dylen nhw wedi cyfathrebu’n well.

    Felly gadawais i’r maes parcio – ar ôl i mi dalu! – yn trio achub y diwrnod. Gwybodais i gallwn i gyrraedd Y Waun i wylio’r ail hanner o’r gêm Cymru North yno. Do’n i ddim yn disgwyl gymaint o ddrama yno chwaith. Bydd Y Waun yn cwympo beth bynnag, ond ers y cadarnhad o’r cwymp maen nhw wedi ennill dwywaith allan o dri a gyfartalu’r llall – ble roedd y cyflwr ‘na’n gynharach! Ond mae’r ymwelwyr Porthmadog yn gwynebu sefyllfa’n fwy ansicr na hynny. Roedd angen i gael pwynt o leia i aros i fyny ar y cae, ond dydy pethau ddim yn syml yn Gymru. Mae Prestatyn yn aros am benderfyniad o’r cosb am ddewis chwaraewr anghymwys, ac yn sefyll yn y safle uwchben Porthmadog! Mae pobl wedi cael digon o’r sefylfeydd oddi ar y cae yn dylanwadu’r canlyniadau ond mae’n digwydd eto ac eto ac eto.

    Cyrhaeddais i mewn pryd i weld amser ychwanegol yn yr hanner cyntaf. Roedd Y Waun ar y blaen yn barod, efo gôl sgoriwyd gan Rhys Edwards, chwaraewr sy’n gwisgo gwallt addas i Twisted Sister (does dim digon o bethau fel hyn yn bêl-droed). Ond yn yr ail hanner aeth y traffig dim ond un ffordd, o blaid Porthmadog. Aeth asgellwyr Porthmadog heibio chwaraewyr Y Waun yn haws yn aml, ac aeth y gôl i unioni cyn bo hir, gorffeniad syml gan Rhys Williams (Rhys is the word!). Mi ddaeth Borthmadog yn ôl eto ac eto ond rhywsut arhosodd Y Waun yn y gêm. Dylai Porthmadog wedi sgorio â foli efo amser a gofod, ac roedd ciciau rhydd a chiciau cornel i greu trafferth. Hefyd roedd dau arbediad campus gan Jack Edwards, gôl-geidwad newydd o’r Seintiau Newydd, un oddi ar y trawst. Derbynnodd o (a’r amddiffynnwr Jake Ellison) gerdyn melyn am wastraffu amser, i ddangos ble roedd y gêm yn mynd. Ond rhywsut gallai’r Waun wedi cipio’r fuddugoliaeth, ar ôl iddyn nhw daro’r postyn wedi gwyriad yn ystod ymosod prin. Yn y diwedd roedd angen i’r ymwelwyr setlo am ddim ond un pwynt. Digon i gael cyfle i aros i fyny ar y cae ond bydd rhaid iddyn nhw chwarae yn erbyn Treffynnon, felly maen nhw angen ffafr o’r FAW – rhywbeth eitha cyffredin beth bynnag!

    Yn y diwedd mi ges i rywbeth allan o ddiwrnod anodd, gan gynnwys digon o gyfleoedd i ennill dwy gêm. Dw i ddim yn gwybod pryd dw i’n mynd i Whitchurch eto, ond bydd rhaid iddo fo ddydd sych iawn i ystyried y peth eto.

    SUMMARY SAESNEG

    If you’re having a pitch inspection it really is a minimum standard to actually tell people that it’s happening. Chirk had to grimly hang on in a second half where it all went Porthmadog’s way, although somehow they could also have won. We are in yet another situation where we are waiting for points deductions to influence where teams finish.

  • Wrecsam 2 Mansfield 0 29/3/2024

    Dyn ni’n agosáu’r rhan hollbwysig o’r tymor ym mhob cynghrair. Mae’n enwedig yn wir yn League 2 ar hyn o bryd, efo chwe dîm yn brwydro i gael un o’r tri safle dyrchafiad awtomatig. Heddiw oedd un bwysig i Wrecsam hefyd, efo Mansfield yn dod ar frig y tabl, ac mae’r timau eraill yn chwarae gemau basech chi’n disgwyl eu bod nhw i ennill. Yn sydyn mae cyflwr Wrecsam yn edrych yn rhyfedd, efo cymysg o ganlyniadau gartre Ras gan gynnwys colledion yn erbyn Tranmere a Bradford, ond dim ond un golled oddi cartref allan o chwech. Heddiw oedd y cyfle perffaith i ail-adeiladu hyder er her enfawr i wneud hynny.

    Cyn y gêm roedd llawer o drafodaeth am y sefyllfa ariannol oherwydd cyhoeddiad y cyfrifon 2022/23. Mae’r clwb wedi colli £5 miliwn o bunnau dros y tymor, yn gadael dyled o £9 miliwn i’r perchnogion. Dyma rywbeth gwerthfawr i drafod. Dw i’n gallu cofio’n glir sut mae Ryan Reynolds wedi dweud bod na fydd angen i fuddsoddi efo dyled ar ôl iddo fo dderbyn cwestiwn uniongyrchol am y peth yn ystod eu cyflwyniad i’r aelodau WST yn 2020. Doed dim byd annisgwyl am fenthyg arian i glybiau fel perchennog, ond dwedodd o’r peth gwrthwyneb ar y pryd, a ddylen ni ddim yn anghofio hwn. Dw i ddim yn disgwyl gymaint o risg i’r clwb achos mae’r clwb wedi bod yn llwyddiannus ar y cae ac oddi ar y cae. Ond dw i ddim siŵr dylai perchnogion yn llwytho’r risg i gyd ar y clwb a diogelu eu hunain – mae’n iawn i Wrecsam, ond yn fentrus i glybiau eraill. Gallwn i dderbyn y ffaith os roedd y perchnogion yn onest ar y pryd, hyd yn oed heb gytuno a’r ymdrin, ond dw i ddim siŵr pam neb yn siarad am y clwb yn torri addewidion.

    Erbyn tri o’r gloch, doedd neb yn poeni am faterion oddi ar y cae, heblaw’r cymysg o amodau tywydd, weithiau daeth y gwanwyn, weithiau glaw drwm. Roedd hi’n anodd i ymdopi’n gynnar, a doedd yr hanner cyntaf yn glasur. Dylai Elliot Lee yn mynd ar ben ei hun i Wrecsam, ac roedd Wrecsam yn lwcus i osgoi cosb ar ôl iddyn nhw greu eu problemau eu hunain. Ond pan aeth y cyfle cyntaf, mi aeth o i Wrecsam, wedi pas wych o’r amddiffyn gan Max Cleworth i ddod o hyd Andy Cannon, i groesi at Paul Mullin, a dydy o ddim yn methu yno. Aeth y gôl allan o nunlle i ddweud y gwir, ac heblaw un ergyd gan Mansfield drwy’r cyrff heibio’r postyn doedd dim digwyddiadau eraill. Nid adloniant i’r cynulleidfa ar Sky ond dim cwyniant i’r dîm Phil Parkinson, yn enwedig oherwydd gêm tawel Davis Keillor-Dunn, cyn-chwaraewr Wrecsam.

    Gwelon ni ddechrau positif gan Wrecsam wedi’r egwyl ond trododd y gêm mewn cyfnod lwcus iddyn nhw. Daeth Arthur Okonkwo i ymyl y cwrt cosbi i gasglu’r pêl, ond cipiodd Keillor-Dunn y pêl i ergydio i’r gôl wag, ond penderfynodd y dyfarnwr fod trosedd ar y gôl-geidwad. Tipyn bach yn feddal yn fy marn i ond doedd neb yn dadlau â’r dyfarnwr. Cyn bo hir, aeth Wrecsam i fyny’r cae, ac er rhai pasiau llac roedd digon o berygl i ddenu trosedd ar Luke Bolton yn y cwrt cosbi. Roedd y cic o’r smotyn gan Mullin yn agos i’r gôl-geidwad ond yn bwerus i’r to’r rhwyd. Roedd 25 munud ar ôl ond doedd dim lot o gred gan yr ymwelwyr; gadawodd Keillor-Dunn i gyflwyno chwaraewyr uniongyrchol, ond roedd gôl arall Wrecsam yn fwy tebygol. Yn y diwedd roedd dwy gôl yn ddigon heb gymaint o bryder…heblaw am y glaw.

    Diwrnod llwyddiannus i Wrecsam, efo Mullin yn edrych yn hyderus eto, a pherfformiadau da iawn gan Andy Cannon yng nghanol cae a Luke Bolton ar y dde. Mae Crewe wedi cael gêm ddi-sgôr felly mae’r gemau ail-gyfle’n edrych yn debygol iddyn nhw, ond mae’r pump eraill yn dal yn cystadlu am y pencampwriaeth. Ymddangosodd enfys ar y chwiban olaf, falle bydd aur ar ei ben i Wrecsam cyn bo hir. Dyn ni’n gallu anghofio am y dyled os mae hynny’n wir.

    SUMMARY SAESNEG

    Pre-match chat about debt is soon forgotten when the ball comes out. Mansfield were ultimately kept quiet with Davis Keillor-Dunn having a quiet, but unlucky, return. Paul Mullin looks like he has his confidence back.

  • Wrecsam Merched 2 Abertawe 3 24/3/2024

    Dw i heb ddweud hwn gynt ond dw i ddim yn hoffi gemau ar ddydd Sul. Yn fy marn i, dylech chi dreulio dydd Sul yn cerdded o gwmpas y sŵ, neu balu ar y traeth, neu fwyta cacen mewn caffi Ymddiriedaeth Genedlaethol, neu ddelio efo eich pen mawr. Fel ffan rygbi gynghrair, rhaid i chi ddod i arfer gemau ar ddydd Sul ond mae’n wastad yn teimlo fel dylech chi fod rhywle arall – roedd fy nheulu yn y fferm hufen iâ Cheshire yn y bore cyn y gêm ‘ma. Ond mae’r gêm merched yn gyffredinol wedi setlo ar ddydd Sul, ac mae’n gwneud synnwyr. Mae angen i rannu cyfleusterau efo’r gêm dynion a denu sylw pan nad ydyn nhw’n chwarae. Heddiw, roedd gêm cyffrous i’r tîm merched Wrecsam hefyd. Roedd gêm lwyddiannus iawn ganddyn nhw’r llynedd pan ddaeth dros 9000 o bobl i wylio eu gêm yn erbyn Cei Connah ( https://taithpeldroed.wordpress.com/2023/03/26/wrecsam-merched-2-cei-conna-1-26-3-2023/ ). Dw i wedi cael llawer o bethau i ddweud am y penderfyniad i chwarae yn y Graig y tymor ‘ma felly doedd dim angen i ail-adrodd. Felly, teimlais i fel y gêm yn erbyn Abertawe yn y Cae Ras oedd yn bwysig i gefnogi am sawl rheswm, i ddangos dylai’r tîm yn dychwelyd yn amlach, ac achos mae’r tîm yn haeddiannol o’r achlysur wedi tymor llwyddiannus, beth bynnag sy’n digwydd am weddill y tymor.

    Mae’r tîm merched wedi cyrraedd y rownd derfynol Cwpan Cymru yn Rodney Parade, Casnewydd oherwydd buddugoliaeth yn erbyn Y Seintiau Newydd ( https://taithpeldroed.wordpress.com/2024/03/03/wrecsam-merched-1-y-seintiau-newydd-0-3-3-2024/  ). Mae rhai pobl wedi cwyno am y lleoliad ond dylen nhw chwarae eu gemau mwyaf mewn stadiwms fwy. Ond mae’n amlwg bod y gêm yn gorffen am 8yh ar nos Sul yn anghyfleus, a dydy’r tocynnau £91 am drên i Gasnewydd ddim yn apelio (fydd bws i gefnogwyr? Dylai un yn sicr). Felly, mae’r cyfle i chwarae yn y Cae Ras yn bwysicach eto achos hwn oedd y cyfle gorau i longyfarch y tîm am eu gwaith anhygoel y tymor ‘ma. Hefyd, roedd angen i gyfnerthu’r tîm wedi cychwyn anodd yn y gynghrair ar ôl yr hollt. Dechreuodd Wrecsam efo colled 3-2 yn Abertawe, y perfformiad gorau yn erbyn y gawresau De Cymru ers gêm gyntaf y tymor (hefyd yn erbyn Abertawe). Ond daeth Wrecsam i’r gêm yn y Cae Ras ar ôl golled 6-1 yn erbyn Caerdydd. Doedd y gêm ddim yn adlewyrchu’r perfformiad gan Wrecsam yn ôl y bobl yno i wylio, a Gemma Owen o’r clwb, ond mae Wrecsam wedi colli pedwar allan o bedwar yn drwm yn erbyn y pencampwyr (sgôr cyfanswm 15-2 i Gaerdydd hyd yn hyn, efo dwy gêm i fynd, gan gynnwys y gêm derfynol Cwpan Cymru). Ro’n ni’n gobeithio am adwaith o flaen llwyfan mwy yn y Cae Ras.

    Abertawe oedd yr ymwelwyr i’r Cae Ras, felly doedd dim cyfle hawdd i ail-adeiladu hyder. Mae Caerdydd yn dal y ffefrynnau i ennill y gynghrair, ond oherwydd eu buddugoliaeth yn erbyn y pencampwyr cyn yr hollt, mae gan Abertawe gyfle bach i gipio’r bencampwriaeth. Bydd rhaid iddyn nhw ennill y ddwy gêm ar ôl yn erbyn Caerdydd, ond mae cyfle bach yn dal yn gyfle, ac yn ystod y gêm olaf yn erbyn Wrecsam, dangoson nhw pa mor beryglus eu bod nhw’n gallu bod. Y gêm yn Llandarcy oedd y sioe Katy Hosford, yn creu perygl di-baid ar y chwith a sgorio dwywaith. Mae Stacey John-Davis yn un o’r chwaraewyr mwyaf talentog yn y gynghrair hefyd, felly roedd angen i Wrecsam osgoi creu eu trafferth eu hunain fel yr wythnos flaenorol. Bydd Abertawe yn wynebu Caerdydd unwaith eto yn y Tlws Adran hefyd, felly roedd y gêm yn un heriol iawn yn erbyn tîm yn dal yn cystadlu am wobrau ac yn edrych defnyddio’r gêm yn Wrecsam fel carreg sarn i’r gemau yn erbyn eu cydymgeiswyr mwyaf.

    Roedd llawer o bethau annisgwyl, gan gynnwys prynhawn heulog yn y Paddock, fy nhro cyntaf yno am flynyddoedd. Mi ddaeth Abertawe heb John-Davis, a dechreuodd Wrecsam efo tair yn amddiffyn, Carra Jones fel wing-back a Brooke Cairns yn cefnogi Rosie Hughes. Roedd y ddau dîm yn ymosod o’r cychwyn. Roedd Keren Allen yn lwcus i ennill trosedd i beidio Robyn Pinder o’r cyfle yn erbyn gôl-geidwad Del Morgan, ond roedd gyfleoedd i Cairns hefyd, un heibio’r postyn ac un arall dros y drawst, ac roedd angen i glirio oddi ar y llinell gan Abertawe. Daeth y gôl cyntaf allan o nunlle, sylwodd Lili Jones y gôl-geidwad Chelsea Herbert oddi ar ei llinell, a churodd lob i fanteisio – gôl gampus! Basai pethau wedi bod yn ddiddorol os mae Wrecsam wedi cyrraedd yr egwyl efo’r fantais, ond ymhen saith munud ennillodd Abertawe cic o’r smotyn wedi camgymeriad gan Allen – hanner anodd iawn iddi hi. Sgoriodd Robyn Pinder i unioni er lawer o waith caled gan y ddau dîm.

    Yn syth ar ôl yr ail-gychwyn gwelon ni’r un lefel o ddwyster. Ymhen eiliadau caeth Cairns gyfle wych un yn erbyn un, ond cymerodd hi ormod o amser i ergydio. Basai hi wedi bod yn haeddiannus o gôl o berfformiad seren y gêm, yn fy marn i. Basai Wrecsam yn difaru’r methiant; ar ôl iddyn nhw glirio cic cornel, defnyddiodd Monet Legall yr ysbryd o Tony Yeboah i sgorio oddi ar y bar – gôl wych arall. Ond roedd Wrecsam yn benderfynol i ddal ati, er berygl gwrthymosod Abertawe, efo’r angen tacl wych gan Allen i beidio Hosford, ac arbediad ar y postyn agosach gan Del Morgan. Pan ddaeth y gôl i unioni gan Rosie Hughes, hwn oedd yn haeddiannus, efo’r eilydd Annie Small yn gwneud gwahaniaeth. Sgoriodd Hughes efo peniad wedi croesiad da gan Carra Jones i greu sŵn uchel o’r cefnogwyr. Ond mae pêl-droed yn creulon. Yn amser ychwanegol tarodd TJ Dickens (eilydd arall) y postyn o’r cic cornel ond ymhen un munud aeth Abertawe i fyny, daeth croesiad i mewn y cwrt cosbi gan Ellie Lake, heibio pawb i ddod o hyd y rhwyd. Roedd y dathliadau’n wyllt, gwybododd Abertawe bod y buddugoliaeth yn anodd, ond maen nhw’n dal yn ddi-guro yn erbyn Wrecsam y tymor ‘ma.

    Yn y diwedd roedd yr achlysur yn llwyddiannus. Roedd  y canlyniad yn siomedig er berfformiad annogol gan Wrecsam; hwn oedd y tro cyntaf teimlais i fel dylai Wrecsam wedi ennill allan o’r wyth gêm hyd yn hyn yn erbyn Abertawe a Chaerdydd. Rhaid i mi gyfaddef am obeithio gweld torf mwy i’w wylio. Ar yr un llaw, falle ddylwn i ddim bod wedi bod yn disgwyl rhywbeth i herio’r 9000 o’r llynedd, hwn oedd “mellt mewn potel” (ymddiheuriadau am yr idiom Saesneg! Dim syniad os mae’n cyfieithu neu beidio). Hefyd, mae’r tîm wedi cael ei dorf uchaf y tymor ‘ma o 700 cyn heddiw, ac wedi setlo i 300-350 yn ddiweddar, felly denu 2008 i’r Cae Ras yn dda mewn cynghrair hanner proffesiynol – dw i wedi gwylio’r dynion o flaen torf llai yn y 21ain ganrif. Ond ar y llaw arall dw i’n teimlo fel gallai’r clwb wedi gwneud mwy i ddenu mwy. Mi gaeth y gêm yn erbyn Cei Connah y cyfle i adeiladu tocynnau wedi’u gwerthu dros sawl wythnos, ac roedd llai o rybudd am y gêm ‘ma. Hefyd, doedd dim sôn am y gêm ar unrhyw o’r negeseuon e-bost wythnosol o’r clwb. Ond dyn ni wedi gweld yn union pam dylai’r tîm merched yn dychwelyd yn amlach yn fy marn i – gobeithio y tro nesa fel ennillwyr y cwpan? Bydd yr her nesa yn perfformio fel hyn yn erbyn y pencampwyr.

    SUMMARY SAESNEG

    I still feel like I should be somewhere else when I’m at a game on a Sunday. This was the first game where I felt like Wrexham should have beaten one of the South Wales big two. The occasion was successful but it feels like it could have been more so.

  • Wrecsam 0 Harrogate 0 12/3/2024

    Ar wythnos brysur yn Wrecsam mae’n bosib anghofio bod diwedd y tymor yn dod yn gyflym. Ers y gêm olaf roedd y cyhoeddiad am y tîm merched yn chwarae yn y Cae Ras unwaith eto (o’r diwedd!), taith i’r UDA dros yr haf i’r merched a’r dynion, noddwyr newydd Ally i helpu’r daith, yn ogystal â’r cyhoeddiad am y tîm merched cenedlaethol yn cychwyn eu gemau rhagbrofol Ewro 2025 yn y Cae Ras ym mis Ebrill (eto…o’r diwedd!). Bydd y rhaglen dogfen yn dychwelyd cyn bo hir, ac mae dirgelwch newydd am bwy sy wedi prynu 5% o’r clwb heb gyhoeddiad hefyd. Ond yn y cyfamser mae’r ras dyrchafiad yn berwi, efo pum clwb yn ymladd ennill y bencampwriaeth. Felly, bydd angen gemau ail-gyfle i ddau a bydd un clwb o’r pump yn methu’n glir ag ennill dyrchafiad. Does neb wedi bod yn berffaith, ond dyma’r amser i fynd ar rediad i’r llinell efo deg gêm i fynd.

    Felly mae llawer o bethau’n digwydd a llawer o gemau’n digwydd ar yr un pryd. Falle mae’r brysurdeb wedi effeithio’r torf yn erbyn Harrogate, efo mwy o docynnau ar werth nag arfer mewn sêl cyffredinol, hyd yn oed ar ddiwrnod y gêm, rhywbeth anarferol yn ddiweddar. Ond gallai’r clwb yn agor ardal uwchben yr ymwelwyr oherwydd llai ohonyn nhw nag arfer, a basech chi’n disgwyl gêm llai glamoraidd ar nos Fawrth cyn y gêm fawr yn erbyn ein hen ffrindiau Tranmere i ddenu ddydd Sadwrn. Dim panig am y torfau eto! Mae llai o banig am ganlyniadau’r tîm hefyd – roedd rhai cefnogwyr yn gorymateb beth bynnag, ond mae buddugoliaethau cyfforddus yn erbyn Accrington (yn Wrecsam) a Morecambe (oddi cartref, dim ond y chweched y tymor ‘ma) wedi arwain i hyder yn dychwelyd at y cefnogwyr.

    Dych chi ddim yn gallu gwarantu unrhyw buddugoliaeth ond basai Wrecsam wedi targedi’r gêm yn erbyn Harrogate fel un hanfodol i ennill. Roedd yr ymwelwyr yn saff yn y tabl, dim ond chwe pwynt allan o’r lleoedd ail-gyfle ond efo llawer o glybiau rhyngddyn nhw a’r top 7. Mae’n mwy realistig i weld nhw fel tîm ar y traeth cyn bo hir, yn enwedig pan dych chi’n ystyried eu cyflwr diweddar. Ro’n nhw’n heb fuddugoliaeth yn chwe gêm, gan gynnwys colled 9-2 yn erbyn Mansfield. Falle amser perffaith Paul Mullin i ail-ddarganfod ei gyflwr gorau, efo Ollie Palmer yn heini eto a Steven Fletcher yn edrych yn beryglus hefyd. Ro’n i’n gobeithio am berfformiad da a sawl gôl yn ogystal â’r pwyntiau i ddweud y gwir, ond roedd rhaid i Wrecsam setlo am ddim ond un pwynt yn y gêm oddi cartref.

    Roedd ychydig o rwystredigaeth o gwmpas – roedd y maes parcio Ysbyty Maelor bron yn llawn a doedd y nyrsys yno ddim yn hapus o gwbl. Fel cosb i mi (er y ffaith dw i’n gweithio yn yr ysbyty, felly dw i’n gallu parcio yno unrhyw bryd) ymunais i’r ciw ble nad oedd y sganiwr tocynnau’n gweithio. Hefyd, roedd hi’n amlwg bod ro’n i’n eistedd wrth rywun efo angen o gofod, a tu ôl rhywun awyddus i sefyll bob tro Wrecsam yn cael y pêl! Ond y peth bwysicaf oedd y tywydd yn yr eisteddle dros dro – digon drwm am noson ym mis Mawrth (ond daeth rhywun â’r gŵn tŷ!) a diffyg o glaw hefyd. Doedd dim angen i mi sefyll yn y glaw ers fy erthygl cyntaf o’r Waun dwy flynedd yn ôl felly dyma rhywbeth hollbwysig!

    Penderfynodd y chwaraewyr beidio’r dyn sy’n hoffi sefyll efo hanner cyntaf araf. Roedd Harrogate yn hapus i arafu’r gêm, chwilio am grys glas a gosod y pwysleis ar Wrecsam i wneud rhywbeth arall. Fel ymateb roedd Wrecsam yn amyneddgar ond…falle tipyn bach yn rhy amyneddgar. Doedd dim diffyg o ymdrech ac mae’n gwneud synnwyr i osgoi annog ymwelwyr sy isio gwrthymosod. Roedd cyfnod o sawl munud ble daeth Jacob Mendy i’r gêm ar y chwith. Ond er ei berygl doedd y pas olaf ddim yn ddigon da ac aeth yr ymwelwyr i’r ystafelloedd newid yn hapus efo’r diffyg o drafferth i’r gôl-geidwad. Erbyn y chwiban, roedd y cefnogwyr Wrecsam yn dawel iawn.

    Dechreuodd Harrogate amddiffyn yn ddwfn yn syth ar ôl yr egwyl. Ymdangosodd Wrecsam fel tîm yn sicr i sgorio efo Ollie Palmer yn edrych yn fywiog, a dylai fo wedi taro’r targed ar ôl un rhediad gyffrous. Ond parhaodd yr un patrwm, efo’r diffyg o bas olaf digon da. Daeth Steven Fletcher ar y cae i gymryd ei le; fel arfer ennillodd o bob peniad, a gorfododd arbediad cyntaf go iawn hefyd, ac un arall oddi ar y llinell, ond eto gallai Harrogate delio efo’r pwysau. Yn y 15 munud olaf daeth rhywbeth anarferol, newidodd Phil Parkinson y siâp efo tri eilydd, gan gynnwys cyflymder Luke Bolton a’r steil uniongyrchol Jack Marriott. Roedd Marriott yn awyddus i ergydio, ond amddifynnodd bob chwaraewr Harrogate yn y cwrt cosbi erbyn hynny. Gorfododd Luke Young, yr eilydd olaf, arbediad arall o bell, ac roedd hanner gyfle arall i Mullin efo cic olaf y gêm, ond mae Harrogate wedi dianc efo pwynt. 

    Dylen ni ganmol disgyblaeth i fynd i ffwrdd efo’r pwynt ond bydd Wrecsam yn siomedig am fethu profi’r gol-geidwad er holl y meddiant, a’r degfed cerdyn melyn James McClean – bydd o’n colli dwy gêm. Weithiau mae’n anodd dod o hyd yr allwedd, heno oedd un ohonyn nhw. Rhywsut symudodd Wrecsam i fyny i’r ail safle oherwydd colled i Mansfield a MK, ond mae Stockport yn chwarae ar nos Iau a’r sefyllfa’n dal yn ddynn iawn. Noson rhwystredig a diflannodd fy rhediad o gemau heb un ddi-sgôr…dim ond un peth i ddathlu. Cyrhaeddais i’r maes parcio cyn y mwyafrif, felly ro’n i’n adre erbyn pum munud i ddeg! Buddugoliaethau fach…

    SUMMARY SAESNEG

    In another busy week for Wrexham there was some frustration in not creating enough work for the visiting goalkeeper. Harrogate certainly didn’t come to play but their discipline got them a hard earned point. You need small victories on nights like these, like getting away from the car park before anyone else.

  • Wrecsam Merched 1 Y Seintiau Newydd 0 3/3/2024 

    Dyn ni wedi bod yma’n eitha diweddar. Gwelais i’r gêm rhwng timau merched Wrecsam a’r Seintiau Newydd ym mis Ionawr yn Neuadd y Parc ( https://taithpeldroed.wordpress.com/2024/01/24/y-seintiau-newydd-2-wrecsam-merched-3-24-1-2024/ ). Roedd Wrecsam yn fuddugoliaethus mewn gêm fywiog a dadleuol. Mi gaeth Helen Evans gerdyn coch pan oedd y sgôr yn gyfartal, ond caeth y cerdyn ei ddymchwelyd, ac ar y dydd olaf cyn yr hollt methodd Y Seintiau ar y top 4 erbyn dim ond un pwynt. Dylen ni ddweud bod y Seintiau wedi ildio mwy o goliau na’r timau eraill hefyd, a gaethon nhw gyfle i achub eu hunain yn erbyn eu cydymgeiswyr ar y diwrnod olaf. Ond dw i’n siŵr bod teimlodd Y Seintiau fel gêm arall yn erbyn Wrecsam oedd gyfle i gael dial.

    Hwn oedd gyfle i greu hanes i’r ddau glwb. Ro’n nhw’n cystadlu i gyrraedd y rownd derfynol o’r Cwpan Cymru am y tro cyntaf, ar faes niwtral yn Fflint. Basech chi wedi ystyried Wrecsam fel ffefrynnau, ar ôl iddyn nhw orffen yn 3ydd yn y gynghrair yn gyfforddus, ond maen nhw wedi brwydro yn eu gemau diweddar. Roedd angen i ymladd am bob pwynt, gan gynnwys buddugoliaethau agos yn erbyn Pontypridd, Barri ac Aberystwyth, a gêm gyfartal yn erbyn Cardiff Met. Mae Wrecsam wedi datblygu arferiad i gael canlyniadau ond does dim byd wedi dod yn hawdd. Mae’r tîm wedi adio tair chwaraewr newydd i’r garfan ers yr hollt (mae’r gemau gynghrair yn ail-ddechrau wythnos nesa) ond oherwydd nad gyfle realistig o ennill y gynghrair, teimlodd y gêm ‘ma fel yr un mwyaf o’r gweddill y tymor.

    Gwnaeth Sgorio’r dewis i ddarlledu’r gêm ‘ma ond roedd gêm fawr yn ne Cymru ar yr un diwrnod. Teimlais i ryddhad i weld Wrecsam yn osgoi Caerdydd ac Abertawe, oherwydd y tîm yn ennill dim ond un pwynt allan o 12 erbyn nhw, a’r angen i chwarae yn erbyn nhw ddwywaith yr un eto bydd yn heriol. Roedd y gêm ‘na’n anrhagweladwy hefyd, oherwydd buddugoliaeth Abertawe yn y gêm olaf cyn yr hollt, y golled gyntaf Caerdydd yn y gynghrair ers dwy flynedd. Mae Caerdydd yn dal yn ffefrynnau i ennill y gynghrair – maen nhw’n 6 pwynt o flaen, ond hwn oedd gyfle i gipio tlws oddi wrthyn nhw. Dechreuodd y gêm am 2yh, felly roedd y ddau glwb yn Fflint yn gwybod pwy oedd y gwrthwynebwyr yn y gêm derfynol oherwydd cic gyntaf 5.10yh yno. Basai’r enillwyr yn ne Cymru’r ffefrynnau i ennill y cwpan, ond roedd y gêm yn Fflint yn mor gyffrous i gael cyfle i herio’r cewri De Cymru.

    Doedd y gêm mor agor â’r gêm yn y gynghrair ond roedd hi’n gystadleuol efo’r ddau dîm yn ymladd i ennill bob pêl. Roedd Amber Lightfoot yn beryglus ar y chwith, yn gweithio’n dda efo Phoebe Davies ac yn edrych i symud i mewn i ergydio. Un o’r chwaraewyr newydd, Liv Fuller, gwnaeth yn wych yn yr amddiffyn hefyd, yn beidio perygl ac yn edrych yn dda efo’r pêl hefyd, tan iddi hi adael ar yr egwyl. Ond mi gaeth y Seintiau’r gyfleoedd gorau. Dylen nhw wedi cosbi Del Morgan ar ôl iddi hi oedi ar y pêl, a roedd angen i Phoebe Davies glirio oddi ar y llinell wedi cic cornel. Roedd peniad rhydd gan Emily Ridge ac ergyd i’r ochr o’r rhwyd, ond er eu gyfleoedd, roedd rhaid iddyn nhw wylio’r prif sgoriwr y gynghrair yn gwneud gwahaniaeth. Mi gaeth Rosie Hughes gêm eitha anodd tan y munud olaf yr hanner, ond manteisiodd hi ar anhrefn yn y cwrt cosbi i sgorio – fel bob wythnos!

    Gwelon ni perfformiad da eto gan y Seintiau wedi’r egwyl. Y Seintiau gorfododd Wrecsam yn ôl am amser hir, yn enwedig ar ôl gadawodd Keren Allen, yn achosi Wrecsam i orffen efo ddwy chwaraewyr wahanol yn y canol. Ond er groesi peryglus, gan gynnwys un sydd wedi mynd heibio pawb a’r postyn pellach, amddiffyn cryf a’r dwylo saff Del Morgan deliodd efo popeth. Pan aeth peniad arall gan Chantelle Teare heibio’r postyn hwn oedd y diwedd her y Seintiau, ac aeth Wrecsam yn ôl yn y munudau olaf. Tarodd Amber Lightfoot y postyn yn y munud olaf – basai gôl wedi bod yn haeddiannus iddi hi. Ond doedd y methiant ddim yn gostus, a bydd Wrecsam yn gwynebu Caerdydd yn y gêm derfynol ym mis Ebrill. Eto bydd y Seintiau’n tybio sut nad ydyn nhw cael canlyniad gwell yn erbyn Wrecsam. Ond mar Wrecsam wedi parhau eu arferiad i orffen y swydd.

    Bydd yr her yn erbyn Caerdydd yn un hollol gwahanol. Ond does dim amser gwell i newid pethau na gêm derfynol. Beth bynnag, mae Wrecsam yn haeddu coroni eu tymor mewn gêm fawr. Mae’r tîm wedi bod yn anhygoel ac wedi bod ar daith hir i gyrraedd yma (dylech chi wylio fideo wedi’i rhyddhau gan y clwb ar https://youtu.be/N6aWVGfn-64?si=jypdz_4ZDpHJLTn9 ). Falle dylen nhw breuddwydio am dlws!

    SUMMARY SAESNEG

    Wrexham have had an outstanding season and a final appearance crowns that. TNS will be wondering how they didn’t force penalties at least as they probably deserved to. A proper goal scorer like Rosie Hughes really only needs one chance to change a game.

  • Treffynnon 4 Cegidfa 2 27/2/2024

    Mae’r frwydr i gyrraedd yr Uwch Gynghrair Cymru yn berwi. Mae’n anodd iawn i ragweld pa un o’r clybiau Sir Fflint bydd yr enillydd, efo Airbus ar y brig ond maen nhw wedi chwarae mwy o gemau. Mae gan Dreffynnon a Fflint digon o gemau ar ôl i deimlo fel dylen nhw fynd heibio Airbus i ennill dyrchafiad. Mae’r perfformiad o’r timau’n cwrso yn erbyn Airbus yn gwneud pethau hyd yn oed mwy cymhleth oherwydd canlyniadau yn erbyn ei gilydd – does neb wedi manteisio’n llawn. Ond y fuddugoliaeth ddiweddar Treffynnon yn erbyn Fflint i weld yn fawr yn y ras i orffen yn gyntaf, er gwaetha colli dwywaith yn erbyn Airbus. Dylen ni canmol y perfformiad hyd yn hyn gan Yr Wyddgrug hefyd, heb gyfle o ennill y bencampwriaeth ond yn cadw’r 4ydd lle yn Sir Fflint hefyd!

    Ro’n nhw’n yma’r llynedd, ond heb y pwysau o’r wobr fawr. Mi gaeth Treffynnon rediad arbennig, yn ennill 25 gemau’n olynol yn y Cymru North, ond rhywsut allen nhw ddim yn gorffen uwchben y pencampwyr Bae Colwyn. Ond wnaethon nhw ddim yn ymgeisio am drwydded Haen 1 beth bynnag ar y pryd. Mae pethau’n wahanol y tro ‘ma, ac achos mae Airbus a Fflint wedi ymgeisio hefyd, gallwn ni’n cael tymor bythgofiadwy – rhywbeth sy’n pwysleisio teimladau’r llawer o gefnogwyr am y Cymru North yn bod yn fwy cyffrous na’r Uwch Gynghrair. Falle, bydd yr un peth yn wir ar y gwaelod hefyd; mae Llanidloes ac Y Waun yn edrych fel dydyn nhw ddim yn gallu dianc o’r lleoedd cwymp, ond mae sawl clwb yn brwydro i aros yn y Cymru North hefyd.

    Doedd y dasg ddim yn hawdd i Dreffynnon i barhau eu rhediad cyfoes o wyth buddugoliaeth yn olynol. Roedd rhaid iddyn nhw gynnal Cegidfa, ble roedd y clwb yn eitha saff yn yr 8fed safle. Maen nhw wedi cael cymysg o ganlyniadau (ennill 7, colli 6 ac wedi gyfartal 6 yn y gynghrair), ond maen nhw wedi ennill dim ond un allan o saith. Mi gaethon nhw rediad cofiadwy yn y Cwpan Nathaniel MG, yn cyrraedd y rownd gynderfynol yn erbyn Y Seintiau Newydd, a ro’n nhw’n gystadleuol er y colled 2-0. Ond hwn oedd ei gêm gyntaf yn erbyn Treffynnon y tymor ‘ma, a rhaid iddyn nhw chwarae’r gêm arall mewn bythefnos, felly roedd hi’n anodd asesu beth i ddisgwyl o’r ymwelwyr. Dylwn i wedi bod yn Rhuthun nos Wener i weld sut mae Treffynnon yn cadw i fyny yn y ras i orffen ar frig y tabl, ond mi gaeth y gêm ei ohirio. Dros y penwythnos roedd buddugoliaethau i Airbus a Fflint, felly roedd pwysau arnyn nhw i ymateb.

    Ac am ymateb! Roedd angen arbediad Supreme gan Robbie Williams (!) yn y gôl Cegidfa ymhen un munud ond allai fo ddim achub yr ymwelwyr am amser hir. Sgoriodd Jake Cooke ar ôl 3 munud efo peniad wedi cic rhydd. Mi gaeth Gegidfa sawl munud positif wedi hynny, gan gynnwys cyfle ble roedd y pêl yn sownd ar y cae yn y cwrt cosbi, ond cyn bo hir dangosodd Drefynnon pwy sy’n brwydro ar y brig. Roedd rhybudd ble roedd Trefynnon yn troi Cegidfa o gwmpas, yn arwain i ergyd heibio’r postyn, cyn i gic rhydd arall greu mwy o drafferth a gôl foli gan Gareth Evans – ond roedd y gôl yn syndod, yn edrych fel un yn mynd heibio’r postyn, ond aeth y pêl i’r cornel. Dangosodd Dreffynnon ei sgiliau am weddill yr hanner, a sgoriodd trydydd gampus – pas wych i agor yr amddiffyn, cyffyrddiad anhygoel i reoli gan Jamie Breese, ac aeth o rownd Robbie Williams (!) i orffen – 8 gôl yn 8 gêm ganddo fo. Let me entertain you!

    Parhaodd yr un patrwm ar ôl yr egwyl. Roedd camgymeriad mwy na Rudebox gan Robbie Williams i golli’r pêl, a sgoriodd Gareth Evans eto i mewn y gôl wag. Hwn oedd diwedd y gêm fel cystadleuaeth, felly dylwn i ganmol sut daeth Gegidfa yn ôl. Ymdangosodd y tîm yn well na’r sgôr hyd yn oed yn 4-0 i lawr, ond roedd arbediad anhygoel gan Shaun Pearson i beidio Cegidfa cyn peniad gan Iwan Matthews ar ôl gwaith da ar y dde – 6 gôl yn 6 gêm ganddo fo erbyn y diwedd. Ro’n nhw’n awyddus i ail-ddechrau er ddiffyg o amser. Doedd dim amser i gael pwynt beth bynnag, yn enwedig ar ôl gerdyn coch haeddiannus i Thomas Williams wedi trosedd gwael. Roedd digon o amser am beniad arall gan Iwan Matthews i wneud y sgôr yn barchus, ond rhaid i mi ddweud bod y buddugoliaeth yn gyfforddus iawn i Dreffynnon.

    Felly noson pleserus ar ôl un siomedig nos Wener. Mae Treffynnon yn edrych fel cystadleuwyr go iawn i ennill y gynghrair. Gobeithio fyddan nhw ddim yn rhwystredig oherwydd y broses trwydded. Mae’r maes angen gwaith ond mae gynno fo enaid, ac mae’r cefnogwyr yn angerddol, ond ro’n i’n gobeithio am fwy ohonyn nhw. Dw i’n methu aros i weld pwy fydd yr ennillwyr.

    SUMMARY SAESNEG

    Halkyn Road is rough and ready but it had soul and if Holywell win the league you hope they won’t be frustrated by licensing. Guilsfield aren’t a bad side but they didn’t get a sniff until the game was beyond them. Robbie Williams puns are fun – I’ve got a Feel for them.

  • Llangollen 1 Dolgellau 2 17/2/2024

    Diwrnod i brofi fy ymrwymiad i bêl-droed Cymru. Roedd hi’n bosib i dderbyn tocyn sbâr i Wrecsam v Notts County mwy nag unwaith. Gêm gyffrous wedi’r tro olaf sydd wedi setlo’r pencampwriaeth, ond ar ôl i mi wario fy arian ar y gêm yn erbyn Bradford wythnos diwetha, ro’n i’n edrych am wefrau rhad yn ei le. Mi es i yn ôl i’r Ardal Northeast – Penycae oedd y lleoliad bythefnos yn ôl ( https://taithpeldroed.wordpress.com/2024/02/03/penycae-0-radnor-valley-2-3-2-2024/  ) a dewisiais i rhywbeth tebyg heddiw. Llangollen oedd y tîm gartre, un tîm arall sy’n brwydro aros yn y gynghrair. Dechreuodd Llangollen y diwrnod yn 10ed ond roedd dim ond 4 pwynt rhwng Llanuwchllyn yn 8ed a Llanrhaeadr yn 14eg allan o 15. Mae’r ymwelwyr Dolgellau yn cael tymor wych, yn dechrau’r diwrnod yn 3ydd, ac ro’n nhw’n gobeithio ymestyn rhediad o ddeg gêm di-guro yn y gynghrair. Ond maen nhw’n dangos rhai o heriau yn y gynghreiriau Ardal hefyd. 

    Baswn i’n ystyried Dolgellau fel tîm o’r Gorllewin felly tybed hoffen nhw symud o’r un gynghrair i’r llall. Hefyd maen nhw’n gallu gorffen yn ail, mewn lle ail-gyfle, ond wnaethon nhw ddim ymgais i gael trwydded haen dau. Rhaid i mi gyfaddef am fod yn gefnogol am y broses trwyddedu – dw i’n ymwybodol o lawer o bobl yn anghytuno – ond baswn i’n cydnabod bod penderfynu dyrchafiad a chwymp ar bethau eraill yn lle pêl-droed yn creu ei broblemau ei hun. Mae’n wir yr wythnos hon yn enwedig, wrth cefnogwyr yn trafod pynciau llosg fel chwaraewyr Adran Premier yn teithio ynghanol yr wythnos, Penybont yn colli pwyntiau (rhywbeth sy’n digwydd yn rhy aml i feio’r clybiau yn fy marn i), a’r diffyg o adolygiad yr Uwch Gynghrair er gwaetha addewidion o weld hwn erbyn hyn. Mae’r FAW wedi cyhoeddi cynlluniau i fuddsoddi 6 miliwn o bunnau yn yr Uwch Gynghrair, ond does gynnon ni ddim manylion am y peth eto. Mae’n newyddion da, heb os, ond yn teimlo fel gais i wrthdynnu sylw oddi ar newyddion drwg pan nad y cynlluniau’n barod eto. Hefyd, mae’r FAW wedi cyhoeddi cynlluniau am gyfleusterau cymuned, rhywbeth yn fwy perthnasol i’r clybiau heddiw. Falle mae pethau’n newid o’r diwedd?

    Dw i wedi bod i gemau yno’n ddwywaith, unwaith wrth cymdeithas yn agor yn araf ar ôl flwyddyn a hanner heb bêl-droed yng Nghymru, ac eto ym mis Mai (fy ngêm olaf i orffen 0-0 – yikes). Heddiw oedd y tro cyntaf rhaid i mi wylio gêm yno mewn tywydd diflas, ond mi ges i rywbeth arall i gymell fy hun. Mi gaeth Llangollen lot o sylw ar ôl frwydro yn erbyn Celtic ar y cyfrif Twitter/X Footy Scran, ble eu selsig, sglodion a saws cyri rhad (bach ond bargen £2) wedi cystadlu yn erbyn Cyri Katsu Celtic. Rhywsut, ennillodd Celtic y pleidleis ar ôl perfformiad da gan Llangollen efo eu cynnig gwerth eich arian. Wel, ar ôl i mi drio’r bryd Llangollen baswn i’n ei argymell – mae nosh yn curo posh!

    Mae’n deg i ddweud aeth y gêm efo’r gwynt. Roedd y gêm yn ddi-sgôr ar yr egwyl ond dw i ddim siŵr sut. Mi gaeth Dolgellau ddigon o gyfleoedd i ennill dwy gêm; roedd un arbediad gynnar i stopio ergyd pwerus, peniad dros y bar cyn bo hir, un arbediad efo’r coesau ac un arall yn erbyn y trawst efo’r cic olaf yr hanner. Ond daeth y moment fawr wedi chwarter awr. Wrth apelio am gic o’r smotyn, gallai Llangollen dim ond gwylio Dolgellau yn mynd at y pen arall, a denu trosedd i ennill cic o’r smotyn ei hun. Dylai cerdyn coch wedi dilyn hefyd – chaeth amddiffynwr Llangollen ddim siawns o ennill y pêl. Ond roedd y hwyl yn dechrau. Gwnaeth Ben Lloyd arbediad o Gerwyn Williams, wedyn mi gaeth o ei gosbi am symudiad gynnar. Gosododd Williams ei ail tro heibio’r postyn. Fasai Dolgellau’n difaru wastraffu cymaint o gyfleoedd?

    Dechreuodd Llangollen yn gryfach ar ôl yr egwyl, yn defnyddio’r gwynt i fynd tu ôl yr amddiffyn. Ond er gwaetha’r momentwm yn newid, wedi gwrthymosod denodd Dolgellau drosedd arall yn y cwrt cosbi. Roedd Gerwyn Williams yn ddewr i gymryd y cic eto, a roedd o’n cŵl i rolio’r pêl i lawr y canol. Ond roedd yr ymateb yn dda gan y tîm gartre, yn parhau efo’r cynllun, ond ro’n nhw’n rhy awyddus i ergydio o bell. Ond aeth yr amddiffyn yn ôl, efo angen i ymladd i gadw’r fantais. Arwainodd y pwysau i Dion James yn llawio ergyd – cic o’r smotyn a cherdyn coch. Sgoriodd Will Cooke, felly dylai un tîm wedi ennill, efo’r dyn ychwanegol a’r fantais o’r gwynt. Ond roedd un gyfle i ypsetio’r ods gan yr ymwelwyr. Ar ôl drosedd di-angen ger y cwrt cosbi, mi gaeth Gethin Evans gyfle i benio’r gôl yn y munud olaf o’r 90. Yn fy marn i mae gan Dolgellau ychydig mwy o ansawdd, ond ar ôl weithio mor galed i newid y gêm bydd Llangollen yn teimlo’n siomedig.

    Mi wnes i’r dewis cywir i gefnogi’r system Cymreig heddiw, yn enwedig ar ôl i mi glywed gwirfoddolwr Llangollen yn trafod fandalaidd yn gadael y clwb efo problem, achos rhaid iddyn nhw drwsio seddi i gael digon i fodloni telerau trwydded newydd. Roedd yr eisteddle newydd ar gau i gadw’r fandals tu allan. Stori cyfarwydd ond trist i glybiau lleol. Gobeithio maen nhw’n gallu goroesi yn y gynghreiriau Ardal, roedd y gêm yn ddifyr ac mae’r selsig a sglodion yn werth y gormodiaith!

    SUMMARY SAESNEG

    Vandalism and licensing issues really do dominate Welsh football chat. A wind affected game could have gone either way but the eventual winners appeared to have a little more quality. After all the Footy Scran attention I can confirm the sausage, chips and curry sauce was the bargain it looks.

  • Wrecsam 0 Bradford 1 10/2/2024

    Yn sydyn, mae tipyn bach o bwysau ar chwaraewyr Wrecsam. Ar ôl ddim ond 4 pwynt allan o 18 oddi cartref (a’r syniad roedd Wrecsam yn lwcus i gael 3 ohonyn nhw yn erbyn Swindon ar ddydd San Steffan), mae pobl yn trafod os mae tîm angen datblygu. Hyd yn oed yn ystod rhediad gampus o ganlyniadau, roedd hi’n bosib i gredu bod y tîm yn dibynnu ar y chwaraewyr gorau i achub eu hunain, yn lle dominyddu gemau, a falle mae gwrthwynebwyr wedi darganfod sut i rwystro Wrecsam. Basech chi’n wedi disgwyl Aaron Hayden a Jordan Tunnicliffe yn dychwelyd i wella’r tîm fel un anodd curo, ond roedd pethau’n waeth wythnos diwetha yn Salford, ble mae’r tîm gartre’n ymladd i osgoi’r cwymp ond ennillon nhw’r brwydr yn yr awyr i gipio’r tri phwynt. Amser da i ddychwelyd i gysur cartref.

    Wrth gwrs roedd llawer o bobl yn gorymateb. Gwelais i ddau neu tri’n trafod sut mae swyddi eraill Phil Parkinson wedi dod i ben yn y gorffennol, achos dydy o ddim yn hyblyg. Ond pam dylai fo newid ei steil eto? Mae’r tîm yn dal yn cystadlu am ddyrchafiad awtomatig, a faswn i ddim yn disgwyl bod pobl wedi anghofio’r tymor 111 o bwyntiau ymhen misoedd! Ddylen ni ddim yn drysu’r adwaith ar-lein efo’r byd go iawn wrth gwrs, ond rhywsut teimlodd y gêm yn erbyn Bradford fel un bwysig iawn i ennill i beidio pobl yn siarad am argyfwng bach – dych chi’n gallu denu miliynau o bunnau a sylw o gwmpas y byd ond mae’n amhosib i newid natur cefnogwyr Wrecsam i ddod rhy isel wedi colled, neu rhy uchel wedi buddugoliaeth!

    Sylwais i bost ar-lein yn trafod rhai tocynnau ar werth mewn sêl cyffredinol, a pham doedd y clwb ddim yn hysbysebu’r ffaith. Felly roedd cyfle i drio rhywbeth newydd – yr eisteddle dros dro. Mi wnes i edrych dros y rhagolwg tywydd cyn i mi brynu un achos dw i’n rhy hen i ddioddef prynhawn gwlyb, yn enwedig ar ôl nos Wener yn gwylio gig Dydd Miwsig Cymru (dw i’n rhy hen am hynny hefyd, i ddweud y gwir). Ond gwnes i benderfyniad i ymddiried y rhagolwg a phrynu un – roedd rhaid i mi baratoi am bob fath o amodau. Yn y diwedd roedd y tywydd yn sych, felly doedd dim angen i ail-fyw y profiad yn yr eisteddle tebyg yn Blackpool, ble es i dair waith, a ro’n i’n gwlyb iawn tair waith.

    Mae Phil Parkinson yn chwedl Bradford wrth gwrs. Mae o wedi ennill dyrchafiad fel rheolwr y clwb, a rhywsut wedi arwain nhw i’r gêm derfynol Cwpan y Gynghrair hefyd yn 2013 o League 2. Atgofion melys i Bradford ond mae pethau’n edrych yn anoddach ar hyn o bryd. Dechreuon nhw’r diwrnod yn 18ed yn y tabl (ond efo digon o bwyntiau i osgoi’r frwydr ar y gwaelod), a do’n nhw ddim yn chwarae yn League 1 ers 2019 – syndod pan dych chi’n ystyried maint y clwb. Dydyn nhw ddim i weld fel clwb hapus oddi ar y cae chwaith, felly basech chi’n gobeithio cyfle perffaith i adfer yn erbyn ymwelwyr heb fuddugoliaeth yn eu wyth gêmau blaenorol yn y gynghrair, wedi’r colledion oddi gartref Wrecsam. Ond un rhybudd – mae Bradford wedi ennill mwy o gemau oddi cartref na Wrecsam y tymor ‘ma…

    Chwaraeodd Wrecsam fel tîm yn ymateb i feirniadaeth yn yr hanner cyntaf. Llai o beli hir, ac hapus i basio o’r amddiffyn drwy’r tîm. Mi gaeth Bradford y gyfle cyntaf, arbediad da gan Arthur Okonkwo ar y postyn agosach, ond roedd Wrecsam y tîm gwell am weddill yr hanner. Roedd angen arbediadau gan Sam Walker i beidio peniad Steven Fletcher, ymdrech o bell gan Ryan Barnett, ac un arall gan James McClean. Bydd Aaron Hayden yn teimlo fel dylai fo wedi sgorio efo peniad hefyd, a Mullin wedi pêl-droed da gan y tîm…ond roedd y gêm yn ddi-sgôr ar yr egwyl, a roedd rhybudd arall ar y chwiban ble aeth ergyd heibio’r postyn gan Bradford yn amser ychwanegol. 

    Dechreuodd Wrecsam yr ail hanner yn addewol hefyd, efo Ryan Barnett yn creu trafferth ar y dde. Roedd pawb yn allan o’r seddi pan gwnaeth o groesi ar ben Elliot Lee ond aeth y pêl heibio’r postyn, ac aeth pethau o’u le ar ôl hynny. Collodd Wrecsam rheolaeth a roedd Bradford yn hapus i arafu’r gêm. Cyn bo hir sylweddolon nhw bod gallen nhw cael mwy, er Wrecsam yn dod â’r chwaraewyr newydd Marriott a Bolton ar y cae. Ar ôl eu cyfnod gorau, roedd trosedd gan Aaron Hayden yn y cwrt cosbi – cic o’r smotyn heb os. Ond roedd Okonkwo’n gallu arbed â’i goesau i achub Wrecsam…am sbel. Yn y munud olaf o’r 90, gorfododd Andy Cook arbed wych arall gan Okonkwo, ond yn dilyn efo peniad i gipio’r pwyntiau, er 6 munud o amser ychwanegol.

    Roedd y gêm yn rhyfedd. Chwaraeodd Wrecsam yn dda am awr ond erbyn y diwedd daeth y pêl hir heb lwyddiant. Dylai Wrecsam wedi ennill ond gorffennodd Bradford yn cryfach, a roedd un gyfle’n ddigon i Andy Cook, wrth edrychodd Paul Mullin ac Elliott Lee llai effeithiol. Felly bydd y dadl am berfformiadau’n parhau. Ond o leia doedd dim glaw yn yr awyr agored…

    SUMMARY SAESNEG

    The new temporary stand had unexpected availability and unexpected good weather. Wrexham were good for an hour but when the long balls came the control disappeared. Despite recent form Bradford have won more often away this season anyway!

  • Penycae 0 Radnor Valley 2 3/2/2024

    Fy nhaith gyntaf y tymor at un o fy hoff feysydd lleol. Mi es i Ffordd Afoneitha i weld fy ngêm gyntaf yn 2023 ( https://taithpeldroed.wordpress.com/2023/01/07/penycae-4-llandrindod-1-7-1-2023/  ) i weld y tîm gartre’n ennill yn gyfforddus iawn yn erbyn ymwelwyr o’r canolbarth. Aeth Radnor Valley o Presteigne heddiw, ond dangosodd y tabl Ardal Northeast her mwy na fy ymweliad olaf. Roedd yr ymwelwyr yn ail ond tan eitha ddiweddar ro’n nhw’n cystadlu ar y brig. Cychwynnodd Radnor efo 2 pwynt allan o 9, ond wedyn 25 allan o 27 i drafferthu Penrhyncoch, yn edrych ail-ennill eu lle yn y Cymru North yn eu cynnig cyntaf. Ond aeth pethau o’i le wedi gêm yn erbyn Penrhyncoch i gychwyn 2024. Roedd colled 4-1 yno, wedyn un arall oddi gartre yn erbyn Dolgellau, ond colled arall gartre yn erbyn Llangollen oedd syndod. Mae’n i weld fel dylai Penrhyncoch ennill y gynghrair ond mae lle ail-gyfle yn y fantol. Bydd angen adfer gan Radnor Valley i gadw’r ail le. Does dim cyfle o ddyrchafiad i Benycae, ond mae eu sefyllfa wedi newid ers aethon nhw naw gêm heb fuddugoliaeth i ddechrau’r tymor. Mae’n dynn ar y gwaelod, efo dim ond Trallwng yn ymddangos fel sicr i gwympo, ond mae Penycae heb golli am saith gêm yn y gynghrair. Felly basen nhw fod wedi bod yn hyderus o gymryd dial ar ôl golled 4-3 yn erbyn Radnor ym mis Medi.

    Yn fy marn i, gemau fel hyn yn dangos anawsterau o’r system Gymreig ar hyn o bryd. Mae’r trydydd lefel i fod addas i glybiau a chwaraewyr lleol, ond roedd angen siwrne rhyw ddwy awr i ddod i Wrecsam – mae’n agosach i Radnor i fynd i Ferthyr neu Glyn Ebwy neu Wrecsam. Rhaid i chi ddarlunio’r llinell rhywle, ond pan dych chi’n ystyried y ddaearyddiaeth Cymru mae’n gwneud mwy o synnwyr i gynnwys cynghrair ychwanegol yn y canolbarth. Mae hynny’n wir i glybiau Wrecsam hefyd, achos mae hanner ohonyn nhw’n chwarae yn un adran, a’r hanner arall yn y llall.

    Dw i wedi canmol gwelliannau Penycae yn fy erthygl flaenorol, achos mae’r cyfleusterau’n wych am lefel 3. Maen nhw’n lwcus efo gymaint o barcio ar y stryd, ond maen nhw wedi datblygu clwb cymdeithasol da iawn hefyd (ble collais i fy het Wrecsam y llynedd – hunllef) ac mae angen i adeiladu 100 o seddi i gael trwydded yn helpu yn y gaeaf. Mae pobl yn cwyno am yr amodau i gael y drwydded, a dw i’n deall pam oherwydd diffyg o arian yn y lefel canolbwyntiedig ar chwarewyr mwy na chefnogwyr. Ond fel profiad ffan, mae’n gweithio’n iawn i ni, ac mae Penycae (gwir o Brickfield hefyd) wedi gwneud yn well na’r mwyafrif o glybiau.

    Does dim angen i drafod yr hanner cyntaf – doedd dim digwyddiadau heblaw bwyta hot dog neis i osgoi’r ofn o’r posibrwydd gêm ddi-sgôr am y tro cyntaf y tymor ‘ma. Diolch byth roedd pethau’n wahanol ar ôl yr egwyl. Gorfododd Radnor ymyriad hwyr gan amddiffynwr Penycae yn y munud cyntaf o’r hanner, ac yn araf dechreuodd yr ymwelwyr ddominyddu’r gêm. Mi gaeth Penycae rhai gyfleoedd i wrthymosod ond heb orfodi arbediad, wrth gofyn Dan Clark i achub y tîm gartre sawl gwaith. Roedd un arbediad gampus yn penodol, ac edrychodd gêm gyfartal y canlyniad gorau i Benycae. Ond o’r diwedd daeth y gôl hollbwysig i Radnor, ar ôl i Joseph Price guro’r llinell cam-sefyll, aeth rownd Clark i orffen. 

    Hwn oedd y pwynt ble collodd Penycae eu pennau. Roedd un neu dau tacl hwyr a chardiau melyn am ddadlau â’r dyfarnwr – dw i ddim siŵr pam achos dw i ddim yn gallu cofio penderfyniadau dadleuol. Derbynnodd Josh Mazzarella dau ohonyn nhw yn yr un munud, ac yn sydyn sgoriodd Callum Matthews i sicrhau’r buddugoliaeth, a dylai Penycae fod yn ddiolchgar i Clark am beidio colled mwy i ddweud y gwir. Felly, er gwaetha cyflwr diweddar, aeth y gêm efo’r tabl yn ei le. Hefyd, does dim angen i wisgo het eleni felly doedd dim risg o golli un…

    SUMMARY SAESNEG

    Afoneitha Road’s status as one of my favourite local grounds remains. The game went with the table and not with recent form. Radnor Valley had the kind of journey where you wonder why there’s no Tier 3 league for mid-Wales.

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni