Cymru 4 Croatia 0 5/4/2024

Ar ôl y siom o’r dynion yn methu cynhwyso Ewro 2024, dyn ni’n dibynnu ar y tîm merched i droi pethau o gwmpas a chyrraedd eu pencampwriaeth gyntaf erioed. Mae’r FAW wedi dewis y Cae Ras fel y lleoliad i gychwyn eu hymgyrch rhagbrofol Ewro 2025 (yn cael ei gynnal yn Y Swistir). Mae’r system ragbrofol yn fwy cymhleth nag arfer – mae tair haen ac yn Lefel A bydd dau dîm yn cymhwyso’n uniongyrchol o bob grŵp. Yn anffodus mae Cymru’n chwarae yn Lefel B, felly hyd yn oed tasai Cymru’n ennill eu grŵp bydd angen i chwarae yn ddau rownd o gemau ail-gyfle i gyrraedd y bencampwriaeth. Mae’n i weld i mi fel system i benderfynu pwy sy’n chwarae heb gymaint o drafferth i’r gewri, a dw i ddim yn cytuno â dulliau fel hyn. Ond bydd Cymru’n rhan o’r gemau ail-gyfle beth bynnag tasen nhw’n osgoi’r safle gwaelod – basech chi’n gobeithio bydd hi’n bosib heb drafferth.

Mae’r tîm wedi wynebu heriau annisgwyl yn ddiweddar. Enillon nhw ddim ond un pwynt yn eu hymgyrch cyntaf yn y Gynghrair Genhedloedd Lefel A (canlyniad da iawn i gyfartalu 0-0 yn erbyn Yr Almaen) felly bydd y tîm yn chwarae yn Lefel B y tro nesa. Ond roedd syndod i weld y rheolwr Gemma Grainger yn ymddiswyddo a chymryd y swydd fel rheolwr Norwy. Gwnaeth hi swydd dda – roedd y tîm yn anffodus i golli allan o’r Cwpan y Byd – ond teimlodd llawer o bobl bod daeth y tîm yn ddiflas. Doedd y tîm ddim yn gyffrous i wylio ac roedd synnwyr bod hi’n rhy anodd i gael cyfle i chwarae tasech chi’n allan o’r tîm. Falle mae’r swydd Norwy wedi bod y canlyniad gorau i Grainger a’r tîm Cymru ar yr un pryd.

Rhian Wilkinson ydy’r rheolwr newydd. Mae hi’n chwaraewr profiadol iawn efo 181  o gapiau Canada (mae ei henw hi’n dod o’i fam Cymraes! Hefyd treuliodd hi amser yn Y Bont-faen fel plentyn). Mae hi wedi gweithio fel cynorthwywr i’r timau Lloegr a Phrydain Gemau Olympaidd, a’i swydd olaf oedd fel rheolwr Portland Thorns, yn ennill y bencampwriaeth NWSL yn 2022. Ond roedd rhaid iddi hi adael y swydd pan ofynnodd y chwaraewyr am ei ymddiswyddiad wedi’r llwyddiant. Mae’n ddiddorol i apwyntio rhywun ar ôl sefyllfa ddadleuol, yn enwedig ar ôl beth ddigwyddodd i Ryan Giggs fel rheolwr o’r tîm dynion cenedlaethol. Ond mi gaeth hi ei chlirio o gamymddwyn, a dw i ddim yn siŵr dylen ni gymharu’r ddwy sefyllfa. Allai Cymru ddim denu rhywun efo ei CV mewn amgylchiadau arferol yn fy marn i – gobeithio mae hi’n gallu ail-adeiladu ei gyrfa yma. 

Fy ngêm merched erioed oedd y gêm gyfeillgar rhwng Cymru ac Estonia yn y Cae Ras dim ond un wythnos cyn y cyfnod clo cyntaf yn 2020 (felly’r gôl gan Nadia Lawrence oedd fy ngôl olaf wedi’i gweld am chwe mis). Dw i wedi disgwyl y tîm i ddychwelyd yn gynharach na hyn achos roedd cyhoeddiad am gêm merched Cymru yn y Cae Ras ym mis Mawrth 2023…ond doedd hi ddim yn digwydd heb esboniad. Roedd achlust am CPD Wrecsam yn gwrthod y gêm i ddiogelu’r cae ond mae dyletswydd efo’r clwb i gynnal gemau fel hyn yng Ngogledd Cymru. Roedd 2000 o bobl yn mynychu’r gêm yn 2020 yn chwarae £5, ar ôl daeth 1000 i wylio’r gêm merched rhyngwladol yn Wrecsam yn erbyn Israel yn 2012, efo mynediad am ddim. Felly mae’r dorf o 4100 yn talu £10 i weld y gêm ‘ma yn dangos gwelliant, gobeithio mae’r FAW yn cytuno ac yn dod â’r tîm yn ôl i Wrecsam eto cyn bo hir (bydd y gemau eraill yn y grŵp yn digwydd yn Llanelli).

Croatia oedd yr ymwelwyr i brofi Rhian Wilkinson yn ei gêm gyntaf. Achos byddan nhw yn Lefel B yn y Gynghrair Genhedloedd nesa, ac yn ddiweddar maen nhw wedi stryglo sgorio’n aml (tebyg i Gymru), ro’n i’n disgwyl gêm gystadleuol a’r amddiffynwyr yn dominyddu. Ond yn yr hanner cyntaf mi gaeth Croatia lawer o gyfleoedd i ymarfer amddiffyn. Dechreuodd Cymru’n gyflym, un y pum munud agored roedd Angharad James yn agos o flaen y gôl, un ergyd heibio’r postyn gan Rachel Rowe, cyn i Rowe yn dod o hyd Jess Fishlock yn ofod i rolio’r gôl gyntaf heibio’r gôl-geidwad. Roedd hi’n anodd i orfodi gymaint o arbediadau am weddill yr hanner ond roedd Cymru’n amyneddgar ac yn dominyddu’r meddiant, efo Rowe ac Ella Powell yn beryglus ar y dde. Falle gallai Elise Hughes yn well efo peniad cyn yr egwyl, ond roedd Cymru’n gyfforddus, wrth Croatia’n stryglo dianc eu hanner.

Daeth Ffion Morgan ar y cae am yr ail hanner yn lle Powell (anffodus iddi hi) a gwnaeth Cymru’r niwed ymhen deg munud. Sgoriodd Fishlock yr ail hefyd ar ôl iddi hi ddilyn ei hergyd ei hun oddi ar y trawst i benio yn y gôl wag, ac un munud yn ddiweddar sgoriodd Rowe wedi symudiad cyflym i goroni perfformiad werth seren y gêm. Daeth y pedwerydd cyn bo hir ar ôl i James siglo at y postyn pellach i orffen wedi pas hir. Doedd dim byd i wneud i’r ymwelwyr heblaw gobeithio am drugaredd – a gwneud trosedd neu ddau. Roedd Cymru’n fodlon i reoli gweddill y gêm a gwneud eilyddion. Roedd  perfformiad bywiog Ceri Holland yn nodedig oddi ar y fainc, ac roedd hi’n anffodus i weld ergyd o bell yn taro’r trawst. Doedd dim ymateb ymosodol o Croatia o gwbl, ond Gemma Evans oedd yn effeithiol i dorri unrhyw gwrthymosod. Felly buddugoliaeth hawdd i gychwyn cyfnod ac ymgyrch newydd i Gymru.

Mae’r wythnos yng Ngogledd Cymru wedi bod yn bositif i’r tîm, efo’r ffocws ar ferched lleol Elise Hughes a Rhiannon Roberts, cyfle i dimau merched lleol i wylio’r tîm yn ymarfer, a buddugoliaeth o flaen torf annogol. Bydd y tîm yn gobeithio i ennill eto ar ddydd Mawrth yn Kosovo, sydd wedi colli yn erbyn Wcráin i gychwyn. Dewch yn ôl i Wrecsam cyn bo hir merched!

SUMMARY SAESNEG

Women’s national team crowds continue to move in the right direction. Wales’ performance was an almost perfect mix of dominating the ball and taking chances when on top. Hopefully this is the right job for Rhian Wilkinson to rebuild her career.


Gadael sylw

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni