Y Waun 1 Porthmadog 1 1/4/2024

Ro’n i’n gobeithio am siwrne dros y ffin i dreulio amser cyn i mi ddychwelyd i’r gwaith ar ôl wythnos i ffwrdd. Does dim byd yn well i anghofio’r teimladau o boeni am beth sy’n aros ymhlith fy e-byst. Mi ges i ddewisiadau oherwydd rhestr lawn o gemau yn Cymru North a llond llaw yn y gynghrair Gogledd Dwyrain Cymru hefyd. Ond mae Whitchurch Alport yn un o fy hoff lleoedd i fynd. Mi es i yno’n union flwyddyn yn ôl, cyd-digwyddiad bach ( https://taithpeldroed.wordpress.com/2023/04/01/whitchurch-alport-2-walsall-wood-1-1-4-2023/ ) ond baswn i’n hapus i fynd yno’n amlach – yn yr erthygl blaenorol trafodais i’r cyfleusterau wych yno, gan gynnwys rhywbeth prin yng Nghymru, terasiad dan do. Ond am unwaith ro’n i eisiau gwneud rhywbeth gwahanol na pori drwy’r problemau yn pêl-droed Cymreig, ond yn mwynhau rhywbeth arall yn ei lle!

Dylai’r gêm heddiw wedi digwydd yn y Midland League, pum dyrchafiad o’r EFL. Mae’r lleoliad yn apelio i mi ond do’n i ddim yn siŵr am ddisgwyl gymaint o ddrama ar y cae. Doedd y ddau dîm yn mynd i fyny neu i lawr eleni, ac hyd yn oed mae cyfrif Facebook Alport wedi disgrifio’r ymwelwyr Shifnal fel cymdogion, dw i ddim siŵr mae hynny’n wir. Felly ro’n i’n dibynnu ar y gêm ei hun i ddarparu’r adloniant heb destun pwysicach. Falle dylwn i fod yn ddiolchgar am hynny, does dim byd yn fwy dramatig na’r gêm yma yn 2020 pan gyhoeddodd yr arweinwyr Prydeinig yr ail gyfnod clo tra i mi wylio Whitchurch v Skelmersdale yn y glaw…

Ond daeth y ddrama o rywle arall. Roedd y dydd yn wlyb weithiau, a sylwais i bobl yn gwneud sylwadau am y perygl o’r gêm yn cael ei ohirio. Roedd sylwadau yn y bore yn dweud bod y gêm yn mynd ymlaen, a dim byd arall…cyn i mi gyrraedd Whitchurch a sylwi post gan y clwb o 2:06yh yn ymddiheuro am na fydd y gêm ymlaen. Mae clybiau’n dibynnu ar wirfoddolwyr, ac mae’n gwneud synnwyr i drio cyflawni gemau ym mis Ebrill. Ond dydy o ddim yn dderbyniol i fethu dweud unrhywbeth o gwbl am arolygiad y cae tan i’r dyfarnwr ohirio’r gêm yn hwyr. Basai cyhoeddiad am y peth fod wedi gwneud gwahaniaeth i mi, hyd yn oed am 1:30 neu 2:00. Roedd y clwb yn amddiffynnol ar gyfrwng cymdeithasol ond dylen nhw wedi cyfathrebu’n well.

Felly gadawais i’r maes parcio – ar ôl i mi dalu! – yn trio achub y diwrnod. Gwybodais i gallwn i gyrraedd Y Waun i wylio’r ail hanner o’r gêm Cymru North yno. Do’n i ddim yn disgwyl gymaint o ddrama yno chwaith. Bydd Y Waun yn cwympo beth bynnag, ond ers y cadarnhad o’r cwymp maen nhw wedi ennill dwywaith allan o dri a gyfartalu’r llall – ble roedd y cyflwr ‘na’n gynharach! Ond mae’r ymwelwyr Porthmadog yn gwynebu sefyllfa’n fwy ansicr na hynny. Roedd angen i gael pwynt o leia i aros i fyny ar y cae, ond dydy pethau ddim yn syml yn Gymru. Mae Prestatyn yn aros am benderfyniad o’r cosb am ddewis chwaraewr anghymwys, ac yn sefyll yn y safle uwchben Porthmadog! Mae pobl wedi cael digon o’r sefylfeydd oddi ar y cae yn dylanwadu’r canlyniadau ond mae’n digwydd eto ac eto ac eto.

Cyrhaeddais i mewn pryd i weld amser ychwanegol yn yr hanner cyntaf. Roedd Y Waun ar y blaen yn barod, efo gôl sgoriwyd gan Rhys Edwards, chwaraewr sy’n gwisgo gwallt addas i Twisted Sister (does dim digon o bethau fel hyn yn bêl-droed). Ond yn yr ail hanner aeth y traffig dim ond un ffordd, o blaid Porthmadog. Aeth asgellwyr Porthmadog heibio chwaraewyr Y Waun yn haws yn aml, ac aeth y gôl i unioni cyn bo hir, gorffeniad syml gan Rhys Williams (Rhys is the word!). Mi ddaeth Borthmadog yn ôl eto ac eto ond rhywsut arhosodd Y Waun yn y gêm. Dylai Porthmadog wedi sgorio â foli efo amser a gofod, ac roedd ciciau rhydd a chiciau cornel i greu trafferth. Hefyd roedd dau arbediad campus gan Jack Edwards, gôl-geidwad newydd o’r Seintiau Newydd, un oddi ar y trawst. Derbynnodd o (a’r amddiffynnwr Jake Ellison) gerdyn melyn am wastraffu amser, i ddangos ble roedd y gêm yn mynd. Ond rhywsut gallai’r Waun wedi cipio’r fuddugoliaeth, ar ôl iddyn nhw daro’r postyn wedi gwyriad yn ystod ymosod prin. Yn y diwedd roedd angen i’r ymwelwyr setlo am ddim ond un pwynt. Digon i gael cyfle i aros i fyny ar y cae ond bydd rhaid iddyn nhw chwarae yn erbyn Treffynnon, felly maen nhw angen ffafr o’r FAW – rhywbeth eitha cyffredin beth bynnag!

Yn y diwedd mi ges i rywbeth allan o ddiwrnod anodd, gan gynnwys digon o gyfleoedd i ennill dwy gêm. Dw i ddim yn gwybod pryd dw i’n mynd i Whitchurch eto, ond bydd rhaid iddo fo ddydd sych iawn i ystyried y peth eto.

SUMMARY SAESNEG

If you’re having a pitch inspection it really is a minimum standard to actually tell people that it’s happening. Chirk had to grimly hang on in a second half where it all went Porthmadog’s way, although somehow they could also have won. We are in yet another situation where we are waiting for points deductions to influence where teams finish.


Gadael sylw

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni