Wrecsam Merched 1 Y Seintiau Newydd 0 3/3/2024 

Dyn ni wedi bod yma’n eitha diweddar. Gwelais i’r gêm rhwng timau merched Wrecsam a’r Seintiau Newydd ym mis Ionawr yn Neuadd y Parc ( https://taithpeldroed.wordpress.com/2024/01/24/y-seintiau-newydd-2-wrecsam-merched-3-24-1-2024/ ). Roedd Wrecsam yn fuddugoliaethus mewn gêm fywiog a dadleuol. Mi gaeth Helen Evans gerdyn coch pan oedd y sgôr yn gyfartal, ond caeth y cerdyn ei ddymchwelyd, ac ar y dydd olaf cyn yr hollt methodd Y Seintiau ar y top 4 erbyn dim ond un pwynt. Dylen ni ddweud bod y Seintiau wedi ildio mwy o goliau na’r timau eraill hefyd, a gaethon nhw gyfle i achub eu hunain yn erbyn eu cydymgeiswyr ar y diwrnod olaf. Ond dw i’n siŵr bod teimlodd Y Seintiau fel gêm arall yn erbyn Wrecsam oedd gyfle i gael dial.

Hwn oedd gyfle i greu hanes i’r ddau glwb. Ro’n nhw’n cystadlu i gyrraedd y rownd derfynol o’r Cwpan Cymru am y tro cyntaf, ar faes niwtral yn Fflint. Basech chi wedi ystyried Wrecsam fel ffefrynnau, ar ôl iddyn nhw orffen yn 3ydd yn y gynghrair yn gyfforddus, ond maen nhw wedi brwydro yn eu gemau diweddar. Roedd angen i ymladd am bob pwynt, gan gynnwys buddugoliaethau agos yn erbyn Pontypridd, Barri ac Aberystwyth, a gêm gyfartal yn erbyn Cardiff Met. Mae Wrecsam wedi datblygu arferiad i gael canlyniadau ond does dim byd wedi dod yn hawdd. Mae’r tîm wedi adio tair chwaraewr newydd i’r garfan ers yr hollt (mae’r gemau gynghrair yn ail-ddechrau wythnos nesa) ond oherwydd nad gyfle realistig o ennill y gynghrair, teimlodd y gêm ‘ma fel yr un mwyaf o’r gweddill y tymor.

Gwnaeth Sgorio’r dewis i ddarlledu’r gêm ‘ma ond roedd gêm fawr yn ne Cymru ar yr un diwrnod. Teimlais i ryddhad i weld Wrecsam yn osgoi Caerdydd ac Abertawe, oherwydd y tîm yn ennill dim ond un pwynt allan o 12 erbyn nhw, a’r angen i chwarae yn erbyn nhw ddwywaith yr un eto bydd yn heriol. Roedd y gêm ‘na’n anrhagweladwy hefyd, oherwydd buddugoliaeth Abertawe yn y gêm olaf cyn yr hollt, y golled gyntaf Caerdydd yn y gynghrair ers dwy flynedd. Mae Caerdydd yn dal yn ffefrynnau i ennill y gynghrair – maen nhw’n 6 pwynt o flaen, ond hwn oedd gyfle i gipio tlws oddi wrthyn nhw. Dechreuodd y gêm am 2yh, felly roedd y ddau glwb yn Fflint yn gwybod pwy oedd y gwrthwynebwyr yn y gêm derfynol oherwydd cic gyntaf 5.10yh yno. Basai’r enillwyr yn ne Cymru’r ffefrynnau i ennill y cwpan, ond roedd y gêm yn Fflint yn mor gyffrous i gael cyfle i herio’r cewri De Cymru.

Doedd y gêm mor agor â’r gêm yn y gynghrair ond roedd hi’n gystadleuol efo’r ddau dîm yn ymladd i ennill bob pêl. Roedd Amber Lightfoot yn beryglus ar y chwith, yn gweithio’n dda efo Phoebe Davies ac yn edrych i symud i mewn i ergydio. Un o’r chwaraewyr newydd, Liv Fuller, gwnaeth yn wych yn yr amddiffyn hefyd, yn beidio perygl ac yn edrych yn dda efo’r pêl hefyd, tan iddi hi adael ar yr egwyl. Ond mi gaeth y Seintiau’r gyfleoedd gorau. Dylen nhw wedi cosbi Del Morgan ar ôl iddi hi oedi ar y pêl, a roedd angen i Phoebe Davies glirio oddi ar y llinell wedi cic cornel. Roedd peniad rhydd gan Emily Ridge ac ergyd i’r ochr o’r rhwyd, ond er eu gyfleoedd, roedd rhaid iddyn nhw wylio’r prif sgoriwr y gynghrair yn gwneud gwahaniaeth. Mi gaeth Rosie Hughes gêm eitha anodd tan y munud olaf yr hanner, ond manteisiodd hi ar anhrefn yn y cwrt cosbi i sgorio – fel bob wythnos!

Gwelon ni perfformiad da eto gan y Seintiau wedi’r egwyl. Y Seintiau gorfododd Wrecsam yn ôl am amser hir, yn enwedig ar ôl gadawodd Keren Allen, yn achosi Wrecsam i orffen efo ddwy chwaraewyr wahanol yn y canol. Ond er groesi peryglus, gan gynnwys un sydd wedi mynd heibio pawb a’r postyn pellach, amddiffyn cryf a’r dwylo saff Del Morgan deliodd efo popeth. Pan aeth peniad arall gan Chantelle Teare heibio’r postyn hwn oedd y diwedd her y Seintiau, ac aeth Wrecsam yn ôl yn y munudau olaf. Tarodd Amber Lightfoot y postyn yn y munud olaf – basai gôl wedi bod yn haeddiannus iddi hi. Ond doedd y methiant ddim yn gostus, a bydd Wrecsam yn gwynebu Caerdydd yn y gêm derfynol ym mis Ebrill. Eto bydd y Seintiau’n tybio sut nad ydyn nhw cael canlyniad gwell yn erbyn Wrecsam. Ond mar Wrecsam wedi parhau eu arferiad i orffen y swydd.

Bydd yr her yn erbyn Caerdydd yn un hollol gwahanol. Ond does dim amser gwell i newid pethau na gêm derfynol. Beth bynnag, mae Wrecsam yn haeddu coroni eu tymor mewn gêm fawr. Mae’r tîm wedi bod yn anhygoel ac wedi bod ar daith hir i gyrraedd yma (dylech chi wylio fideo wedi’i rhyddhau gan y clwb ar https://youtu.be/N6aWVGfn-64?si=jypdz_4ZDpHJLTn9 ). Falle dylen nhw breuddwydio am dlws!

SUMMARY SAESNEG

Wrexham have had an outstanding season and a final appearance crowns that. TNS will be wondering how they didn’t force penalties at least as they probably deserved to. A proper goal scorer like Rosie Hughes really only needs one chance to change a game.


3 ymateb i “Wrecsam Merched 1 Y Seintiau Newydd 0 3/3/2024 ”

  1. Bu bro i mi fynd i wylio’r gêm hon ddoe hefyd achos ro’n i am yrru i’r gogledd a gwneud de-tour i ‘r Fflint ar y ffordd, ond des ar y ten yn y diwedd, ac er i’r trên stopio yn y Fflint am 16:50, byddai cael fy hun i Ddinbych wedyn ar ôl y gêm wedi bo dyn sdrach.

    Ffeinal yn y Drenewydd?

    Hoffi

    • Baswn i’n disgwyl Drenewydd – hoffwn i weld y ddau gêm derfynol (dynion a merched) ar yr un diwrnod yn CCS i hybu’r cystadleuaeth ond bydd Parc Latham yn iawn yn y cyfamser.

      Hoffi

Gadael sylw

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni