Wrecsam Merched 2 Abertawe 3 24/3/2024

Dw i heb ddweud hwn gynt ond dw i ddim yn hoffi gemau ar ddydd Sul. Yn fy marn i, dylech chi dreulio dydd Sul yn cerdded o gwmpas y sŵ, neu balu ar y traeth, neu fwyta cacen mewn caffi Ymddiriedaeth Genedlaethol, neu ddelio efo eich pen mawr. Fel ffan rygbi gynghrair, rhaid i chi ddod i arfer gemau ar ddydd Sul ond mae’n wastad yn teimlo fel dylech chi fod rhywle arall – roedd fy nheulu yn y fferm hufen iâ Cheshire yn y bore cyn y gêm ‘ma. Ond mae’r gêm merched yn gyffredinol wedi setlo ar ddydd Sul, ac mae’n gwneud synnwyr. Mae angen i rannu cyfleusterau efo’r gêm dynion a denu sylw pan nad ydyn nhw’n chwarae. Heddiw, roedd gêm cyffrous i’r tîm merched Wrecsam hefyd. Roedd gêm lwyddiannus iawn ganddyn nhw’r llynedd pan ddaeth dros 9000 o bobl i wylio eu gêm yn erbyn Cei Connah ( https://taithpeldroed.wordpress.com/2023/03/26/wrecsam-merched-2-cei-conna-1-26-3-2023/ ). Dw i wedi cael llawer o bethau i ddweud am y penderfyniad i chwarae yn y Graig y tymor ‘ma felly doedd dim angen i ail-adrodd. Felly, teimlais i fel y gêm yn erbyn Abertawe yn y Cae Ras oedd yn bwysig i gefnogi am sawl rheswm, i ddangos dylai’r tîm yn dychwelyd yn amlach, ac achos mae’r tîm yn haeddiannol o’r achlysur wedi tymor llwyddiannus, beth bynnag sy’n digwydd am weddill y tymor.

Mae’r tîm merched wedi cyrraedd y rownd derfynol Cwpan Cymru yn Rodney Parade, Casnewydd oherwydd buddugoliaeth yn erbyn Y Seintiau Newydd ( https://taithpeldroed.wordpress.com/2024/03/03/wrecsam-merched-1-y-seintiau-newydd-0-3-3-2024/  ). Mae rhai pobl wedi cwyno am y lleoliad ond dylen nhw chwarae eu gemau mwyaf mewn stadiwms fwy. Ond mae’n amlwg bod y gêm yn gorffen am 8yh ar nos Sul yn anghyfleus, a dydy’r tocynnau £91 am drên i Gasnewydd ddim yn apelio (fydd bws i gefnogwyr? Dylai un yn sicr). Felly, mae’r cyfle i chwarae yn y Cae Ras yn bwysicach eto achos hwn oedd y cyfle gorau i longyfarch y tîm am eu gwaith anhygoel y tymor ‘ma. Hefyd, roedd angen i gyfnerthu’r tîm wedi cychwyn anodd yn y gynghrair ar ôl yr hollt. Dechreuodd Wrecsam efo colled 3-2 yn Abertawe, y perfformiad gorau yn erbyn y gawresau De Cymru ers gêm gyntaf y tymor (hefyd yn erbyn Abertawe). Ond daeth Wrecsam i’r gêm yn y Cae Ras ar ôl golled 6-1 yn erbyn Caerdydd. Doedd y gêm ddim yn adlewyrchu’r perfformiad gan Wrecsam yn ôl y bobl yno i wylio, a Gemma Owen o’r clwb, ond mae Wrecsam wedi colli pedwar allan o bedwar yn drwm yn erbyn y pencampwyr (sgôr cyfanswm 15-2 i Gaerdydd hyd yn hyn, efo dwy gêm i fynd, gan gynnwys y gêm derfynol Cwpan Cymru). Ro’n ni’n gobeithio am adwaith o flaen llwyfan mwy yn y Cae Ras.

Abertawe oedd yr ymwelwyr i’r Cae Ras, felly doedd dim cyfle hawdd i ail-adeiladu hyder. Mae Caerdydd yn dal y ffefrynnau i ennill y gynghrair, ond oherwydd eu buddugoliaeth yn erbyn y pencampwyr cyn yr hollt, mae gan Abertawe gyfle bach i gipio’r bencampwriaeth. Bydd rhaid iddyn nhw ennill y ddwy gêm ar ôl yn erbyn Caerdydd, ond mae cyfle bach yn dal yn gyfle, ac yn ystod y gêm olaf yn erbyn Wrecsam, dangoson nhw pa mor beryglus eu bod nhw’n gallu bod. Y gêm yn Llandarcy oedd y sioe Katy Hosford, yn creu perygl di-baid ar y chwith a sgorio dwywaith. Mae Stacey John-Davis yn un o’r chwaraewyr mwyaf talentog yn y gynghrair hefyd, felly roedd angen i Wrecsam osgoi creu eu trafferth eu hunain fel yr wythnos flaenorol. Bydd Abertawe yn wynebu Caerdydd unwaith eto yn y Tlws Adran hefyd, felly roedd y gêm yn un heriol iawn yn erbyn tîm yn dal yn cystadlu am wobrau ac yn edrych defnyddio’r gêm yn Wrecsam fel carreg sarn i’r gemau yn erbyn eu cydymgeiswyr mwyaf.

Roedd llawer o bethau annisgwyl, gan gynnwys prynhawn heulog yn y Paddock, fy nhro cyntaf yno am flynyddoedd. Mi ddaeth Abertawe heb John-Davis, a dechreuodd Wrecsam efo tair yn amddiffyn, Carra Jones fel wing-back a Brooke Cairns yn cefnogi Rosie Hughes. Roedd y ddau dîm yn ymosod o’r cychwyn. Roedd Keren Allen yn lwcus i ennill trosedd i beidio Robyn Pinder o’r cyfle yn erbyn gôl-geidwad Del Morgan, ond roedd gyfleoedd i Cairns hefyd, un heibio’r postyn ac un arall dros y drawst, ac roedd angen i glirio oddi ar y llinell gan Abertawe. Daeth y gôl cyntaf allan o nunlle, sylwodd Lili Jones y gôl-geidwad Chelsea Herbert oddi ar ei llinell, a churodd lob i fanteisio – gôl gampus! Basai pethau wedi bod yn ddiddorol os mae Wrecsam wedi cyrraedd yr egwyl efo’r fantais, ond ymhen saith munud ennillodd Abertawe cic o’r smotyn wedi camgymeriad gan Allen – hanner anodd iawn iddi hi. Sgoriodd Robyn Pinder i unioni er lawer o waith caled gan y ddau dîm.

Yn syth ar ôl yr ail-gychwyn gwelon ni’r un lefel o ddwyster. Ymhen eiliadau caeth Cairns gyfle wych un yn erbyn un, ond cymerodd hi ormod o amser i ergydio. Basai hi wedi bod yn haeddiannus o gôl o berfformiad seren y gêm, yn fy marn i. Basai Wrecsam yn difaru’r methiant; ar ôl iddyn nhw glirio cic cornel, defnyddiodd Monet Legall yr ysbryd o Tony Yeboah i sgorio oddi ar y bar – gôl wych arall. Ond roedd Wrecsam yn benderfynol i ddal ati, er berygl gwrthymosod Abertawe, efo’r angen tacl wych gan Allen i beidio Hosford, ac arbediad ar y postyn agosach gan Del Morgan. Pan ddaeth y gôl i unioni gan Rosie Hughes, hwn oedd yn haeddiannus, efo’r eilydd Annie Small yn gwneud gwahaniaeth. Sgoriodd Hughes efo peniad wedi croesiad da gan Carra Jones i greu sŵn uchel o’r cefnogwyr. Ond mae pêl-droed yn creulon. Yn amser ychwanegol tarodd TJ Dickens (eilydd arall) y postyn o’r cic cornel ond ymhen un munud aeth Abertawe i fyny, daeth croesiad i mewn y cwrt cosbi gan Ellie Lake, heibio pawb i ddod o hyd y rhwyd. Roedd y dathliadau’n wyllt, gwybododd Abertawe bod y buddugoliaeth yn anodd, ond maen nhw’n dal yn ddi-guro yn erbyn Wrecsam y tymor ‘ma.

Yn y diwedd roedd yr achlysur yn llwyddiannus. Roedd  y canlyniad yn siomedig er berfformiad annogol gan Wrecsam; hwn oedd y tro cyntaf teimlais i fel dylai Wrecsam wedi ennill allan o’r wyth gêm hyd yn hyn yn erbyn Abertawe a Chaerdydd. Rhaid i mi gyfaddef am obeithio gweld torf mwy i’w wylio. Ar yr un llaw, falle ddylwn i ddim bod wedi bod yn disgwyl rhywbeth i herio’r 9000 o’r llynedd, hwn oedd “mellt mewn potel” (ymddiheuriadau am yr idiom Saesneg! Dim syniad os mae’n cyfieithu neu beidio). Hefyd, mae’r tîm wedi cael ei dorf uchaf y tymor ‘ma o 700 cyn heddiw, ac wedi setlo i 300-350 yn ddiweddar, felly denu 2008 i’r Cae Ras yn dda mewn cynghrair hanner proffesiynol – dw i wedi gwylio’r dynion o flaen torf llai yn y 21ain ganrif. Ond ar y llaw arall dw i’n teimlo fel gallai’r clwb wedi gwneud mwy i ddenu mwy. Mi gaeth y gêm yn erbyn Cei Connah y cyfle i adeiladu tocynnau wedi’u gwerthu dros sawl wythnos, ac roedd llai o rybudd am y gêm ‘ma. Hefyd, doedd dim sôn am y gêm ar unrhyw o’r negeseuon e-bost wythnosol o’r clwb. Ond dyn ni wedi gweld yn union pam dylai’r tîm merched yn dychwelyd yn amlach yn fy marn i – gobeithio y tro nesa fel ennillwyr y cwpan? Bydd yr her nesa yn perfformio fel hyn yn erbyn y pencampwyr.

SUMMARY SAESNEG

I still feel like I should be somewhere else when I’m at a game on a Sunday. This was the first game where I felt like Wrexham should have beaten one of the South Wales big two. The occasion was successful but it feels like it could have been more so.


Gadael sylw

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni