Mae’r rhaglen dogfen Welcome to Wrexham ar Disney+ wedi creu llawer o gyffro o gwmpas CPD Wrecsam wrth gwrs, oherwydd ei fod o’r rheswm Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi prynu’r clwb yn y lle cyntaf wrth gwrs, ac mae’r rhaglen wedi denu sylw o gwmpas y byd ers darllediad. Felly does dim bai arnoch chi os wnaethoch chi ddim sylwi fersiwn Cymraeg yn digwydd ar S4C ar yr un pryd â’r gyfres gyntaf Disney. Dim siawns o herio’r gyfres Disney yng Nghymraeg yn anffodus (a’r diffyg cyllideb debyg), ond roedd y gyfres yn ddifyr, efo ffocws ar y clwb drwy ddiwylliant Cymraeg.
Roedd y cynhyrchwyr yn ddoeth i gynnwys Maxine Hughes, gwyneb enwog o’r hysbysebiad Disney, yn ogystal â Wrexham Lager, radio cymuned, ac adolygiad y tymor. Roedd dau peth diddorol yn benodol. Chwaraeodd Lili Jones rhan o’r gyfres S4C cyn iddi hi ymddangos ar y gyfres Disney, rhywbeth ble S4C wedi bod yn fwy clyfar na’r tîm Disney i ddangos stori ddynol ysbrydoledig cyn iddyn nhw sylwi. Hefyd, doedd dim gymaint o ffwdan am y teulu yn y rhaglen, tair cenhedlaeth o gefnogwyr ymrwymol. Roedd cymeriadau dadleuol yn y sioe Disney ond mae’r teulu S4C wedi ymddangos yn fwy normal a gwir, ac yn haws i hoffi na rhai pobl yn Welcome to Wrexham. Mae’r gyfres Disney wedi trwsio rhai o broblemau o’r gyfres gyntaf, felly basai hi’n ddidorol i weld os mae Clwb Ni wedi copïo steil Disney neu barhau efo eu dulliau eu hunain.
PENNOD 1
Roedd llawer o bethau i drafod, hyd yn oed ar ôl ragymadrodd hir i ddangos popeth – mor hir ro’n i’n tybed os oedd angen i wylio’r rhaglen i gyd! Fel rhai o’r penodau o’r ail gyfres Disney, roedd y bennod yn gyflym, yn symud o thema i thema, tipyn bach yn rhy gyflym weithiau.
Ar ôl i’r gyfres gyntaf orffen wedi methiant yn y gemau ail-gyfle, felly roedd llawer o bethau i weld i ddal i fyny, gan gynnwys dyrchafiad o’r National League a’r achlysur o’r tîm merched yn chwarae yn y Cae Ras am y tro cyntaf. Mae’r ddau beth yn teimlo fel oesoedd yn ôl rŵan oherwydd llwyddiant i’r dynion a merched ers hynny, ond mae’n werthfawr i atgoffa eich hunain eto, a’r emosiynau wedi creu ganddyn nhw. Roedd Lili Jones yn y canol o’r ddau beth eto – mae hi’n cynrychioli ei hun a’i theulu mor dda mae’n hawdd anghofio ei bod hi wedi mynd drwy rywbeth trasig. Ond mae hi’n dangos ei dewrder a chryfder bob tro, ac yn chwarae’n dda ar y cae hefyd. Bydd gôl fythgofiadwy ganddi hi i ddod ar y sioe dw i’n siŵr…
Roedd cymysg o gefnogwyr ar y sioe. Tomi Caws fel cefnogwr am oes – tybed os bydd y sioe’n edrych am yr effaith o bobl fel fo’n colli eu swyddi newyddiadur. Dyma bwnc yn dangos chwaraeon a chyfryngau’n newid yn negyddol (hyd yn oed mae Henry Winter wedi bod yn diswyddo felly mae’n galed i bawb yn y diwydiant, yn enwedig yn y gwasg lleol). Cledwyn fel gweithiwr am amser hir hefyd, y fath o gymeriad sy’n gweithio’n ddiflino am bob clwb heb gymaint o ganmoliaeth. Ond gwelon ni gwynebau gwahanol hefyd; y “Wrexpats”, yn defnyddio’r clwb i gysylltu â’r hen wlad, cefnogwyr sydd wedi gwneud ffrindiau newydd yn Wrecsam, a hyd yn oed Ffion o Benygroes. Dw i’n disgwyl trafod ei thriniaeth ar-lein y tro nesa (dyfyniad “ddim yn fêl i gyd” iddi hi yn ystod y rhaghysbyeb pennod 2), ond mae’n werthfawr i gofio sut mae McElhenney yn trafod yr orymdaith dyrchafiad. Daeth 40,000 o bobl allan i weld y bws drwy’r strydoedd; mae’n amhosib ffitio nhw i gyd yn y Cae Ras, felly roedd cefnogwyr hen a newydd yno, rhai sy’n dod i gemau bob wythnos, ac eraill efo perthynas achlysurol i’r clwb. Mae pobl isio gweld y clwb yn tyfu, felly bydd cefnogwyr newydd yn bwysig, a sut maen nhw wedi dod i’r clwb yn ongl ddiddorol i’r cwmnïau teledu. Bydd rhaid i ni barchu cefnogwyr newydd i gadw arian yn dod i mewn…
Roedd y ffocws ar gemau cyfeillgar yn America’n ddiddorol hefyd. Dw i ddim siŵr bod Cymru’n gwneud digon o’r cysylltiad efo America a’r arlwyddion gynnar, felly ro’n i’n hapus i weld darn am y pwnc yn Pennsylvania. Roedd darnau a’r dathliadau Las Vegas a’r anafiad Paul Mullin yn y gyfres Disney, felly doedd dim amser i gynnwys rhywbeth yn y sioe ‘ma, y tywydd ofnadwy a pheryglus yn Philadelphia. Ar ôl yr ymdrech i fynd yno, basai’r amodau wedi bod yn siomedig i’r teithwyr, ond maen nhw wedi gwneud y gorau allan o’r sefyllfa. Dw i wedi bod yn feirniadol am y bennod Welcome to Wales yn y gyfres Disney, ond dw i ddim yn gallu pwysleisio’r bennod yn stereoteipio pan cefnogwyr gwlyb yn codi eu hysbryd wrth ganu Calon Lân o dan yr eisteddle!
Felly mae S4C wedi defnyddio pennod brysur i ymdrin â’r dyrchafiad a’r haf. Falle ychydig rhy brysur – falle basai mwy o benodau byrrach wedi bod yn well. Ond roedd y bennod yn ddifyr ac yn defnyddio pynciau na’r gyfres Disney weithiau. Mae’n bwysig i’r gyfres ddod o hyd eu ffocws eu hunain, ac mae’n gwneud hynny hyd yn hyn.