Wrecsam Merched 2 Cei Conna 1 26/3/2023

Gêm a diwrnod nodiadol yn Wrecsam heddiw. Mae’r tîm merched wedi ennill yr Adran North yn barod ac yn dathlu’r cyflawniad efo ymddangosiad o flaen y Cae Ras (heb gyfyngiadau) am y tro cyntaf. Roedd hi’n posib i weld gêm i benderfynu’r pencampwyr oherwydd Cei Conna’n dod, ond goliau mewn amser ychwanegol yn Cei Conna mis yn ôl wedi cymryd eu uchelgais o ddyrchafiad i ffwrdd.

Mae Caerdydd wedi torri’r record o dorf mwyaf i gêm merched (ac yn y system Cymreig, yn cynnwys dynion) yng Nghymru yn barod eleni ond gwnaeth Wrecsam datgan ei bwriad i dorri’r record eto. Mae’r awyrgylch o gwmpas y clwb yn positif, roedd tocynnau ar werth am £1, a llawer o sylw i’r tîm yn ddiweddar, yn cyynwys o’r perchnogion enwog. Doedd dim syndod i weld record newydd, ond gwerthwyd 9500 yn y diwedd. Dyma llwyddiant enfawr i’r clwb a’r gêm merched yng Nghymru. Mae gen i lawer o bethau sinigaidd i ddweud am y dylanwad o’r arian newydd, ond does dim byd i feirniadu am newid y gêm i’r tîm merched.

Roedd cefndir y gêm yn positif hefyd; mae’n gyffredin i weld pobl yn beirniadu ymdrechion i gefnogi’r gêm merched. Doedd dim byd fel hynny cyn y gêm ar-lein, ac edrychodd y torf yn cyfarwydd – llawer o gefnogaeth o’r cefnogwyr traddodiadol a phobl newydd, hyd yn oed ar ôl gêm dynion y diwrnod gynt a’r gêm rhwngwladol yn Croatia. Doedd y torf ddim yn swnllyd ond do’n nhw ddim yn swnllyd yn ystod buddugoliaethau hawdd i’r dynion yn erbyn Dagenham ac Oldham chwaith!

Roedd y gêm un i gofio. Tarodd Cei Conna’r postyn yn gynnar, ac yn difaru’r fethiant ymhen un munud. Sgoriodd TJ Dickens o gic rhydd, ond dw i ddim yn siwr os roedd hi’n ergydio neu beidio! Ond wedi deg munud roedd camgymeriad gan y gôl-geidwad Wrecsam i unioni’r sgôr. Rhaid i ni ganmol y golwyr ar ôl hynny – gwnaethon nhw chwarae’n wych yn ystod gweddill y gêm i adfer o broblemau gynnar. Roedd gweddill y hanner yn gystadleuol, ond er bwysau ymosodol Wrecsam a’r ciciau rhydd peryglus Cei Conna, doedd him mwy o goliau tan ar bwys y diwedd.

Ar benwythnos brysur, daeth y tîm Sgorio i ddarledu’r gêm. Fasen nhw ddim yn difaru eu penderfyniad, achos roedd yr ail hanner gystal â’r cyntaf. Does dim syndod i weld pwy oedd yr arwres – mae Rosie Hughes yn sgorio bob penwythnos, doedd dim heddwch o ei cyflymder a phenderfyniad, ac sgoriodd hi i ennill y gêm yn syth ar ôl gig cornel Cei Conna! Mae hynny’n dangos pa mor cystadleuol oedd y gêm; roedd gyfleoedd i sgorio i’r ddau tîm, a basai Cei Conna yn meddwl bod ei gyfraniad yn digon i haeddu pwynt. Ond mi gaeth Wrecsam digon i cipio’r buddugoliaethau dwywaith yn erbyn Cei Conna.

Arhosodd y mwyafrif i weld cyflwyniad y tlws ar ôl y gêm. Rhan un cyn pencampwriaeth i’r dynion? Ond dim ond rhan un i’r merched hefyd; maen nhw’n gwynebu gêm derfynol yn erbyn Briton Ferry i sicrhau dyrchafiad. Ond mae’r dyfodol yn edrych yn wych beth bynnag. Mae’r tîm yn edrych yn rhy fawr i ddychwelyd i glybiau lleol y tymor nesa…

SUMMARY SAESNEG

Wrexham’s ambition to break a record worked to a huge degree. Connah’s Quay have been unfortunate to be seen off despite great efforts. These games need to stay at the Racecourse.


2 ymateb i “Wrecsam Merched 2 Cei Conna 1 26/3/2023”

Gadael sylw

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni