Whitchurch Alport 2 Walsall Wood 1 1/4/2023

Mi ges i siwrne dros y ffin eto heddiw ar ôl fethu i gael tocyn sbâr gêm Wrecsam. Mae gen i atgofion arbennig o Whitchurch Alport o’r tymor Covid – mi es i yno dwywaith allan o bedair gêm yn 2020/21. Roedd y gêm Cwpan FA yn melys ar ôl chwe mis heb unrhyw gêmau o gwbl. Roedd fy ail ymweliad ym mis Rhagfyr yn gofiadwy; er gwaetha’r Covid yn cynyddu dechreuodd y gynghrair ar ôl egwyl…ond roedd cyhoeddiad am yr ail cyfnod clo am 4yh, yn ystod y gemau! Cyfnod rhyfedd i bawb.

Mae’r maes Whitchurch yn un o fy hoff lleoedd i wylio pêl-droed. Does dim digon o derasu mewn feysydd Cymreig yn fy marn i, ond mae’r clwb Whitchurch wedi creu eisteddle dda iawn tu ôl un gôl, ac mae’r cefnogwyr ymrwymol yn sefyll yno. Ers fy ymweliad cyntaf, roedd llawer o ddatblygiad yno i greu stadiwm da, ac mae’n posib i yfed cwrw ac yn gwylio’r gêm ar yr un pryd – am fywyd moethus!

Mae’r ymwelwyr Walsall Wood yn herio ennill y Midland Football League (lefel 5 non-league yn Lloegr). Roedd cyfrif Twitter Alport yn sôn am gêm anodd iawn, felly ro’n i’n disgwyl prynhawn hir i’r tîm gartre. Dechreuodd yr ymwelwyr fel pencampwyr, yn sgorio ar ôl 4 munud wedi’r gôl-geidwad wedi crwydro allan o’r gôl! Roedd yr hanner awr cyntaf yn heriol iawn i’r tîm gartre, yn cynnwys llawer o berygl o’r asgellwyr Walsall. Ond rhaid i ti ganmol adwaith Whitchurch; daethon nhw’n ôl i’r gêm a dylen nhw fod wedi unioni’r sgôr, ond ro’n nhw’n rhwystredig oherwydd arbediad wych.

Roedd yr ail hanner yn fflat o’r ymwelwyr. Aeth y gêm un ffordd ond ro’n i’n disgwyl Whitchurch i ddifaru methiannau. Roedd peniad rhydd heibio’r postyn, ac un arall sydd wedi taro’r bar. Ond wnaeth Walsall ddim glirio wedi gyfleoedd Whitchurch ac yn ildio cic o’r smotyn. Sgoriodd Whitchurch, a clywon ni’r cefnogwyr yn uchel. Ar ôl 85 munud, methodd Walsall glirio eto, ac yn ildio eto, i sicrhau tri phwynt annisgwyl i Whitchurch. Byddai Walsall yn siomedig – ro’n nhw’n argraffedig am sbel, ond chwaraeodd y tîm ormod o bêl hir, felly collon nhw reolaeth o’r gêm. Gwnaeth Whitchurch gwaith arbennig i aros yn y gêm yn gynnar, ac yn haeddiannus o’r buddugoliaeth yn y pen draw.

SUMMARY SAESNEG

Trips to Whitchurch provide strong memories of trips between the lockdowns. Covered standing makes a difference and we need more in Wales. Whitchurch were deserving winners after Walsall Wood lost their control of the game.


4 ymateb i “Whitchurch Alport 2 Walsall Wood 1 1/4/2023”

  1. Cytuno 100% gyda’r crynodeb Saesneg: Covered standing makes a difference and we need more in Wales
    Ond mi wnes i ddarllen y Gymraeg bob gair hefyd!

    Hoffi

    • Does gen i ddim ormod o broblemau efo’r broses trwydded ond mae’r ffocws ar seddi wedi gwneud man sefyll yn ddi-angen. Pwy sy’n mynd i wario arian ar rywbeth fel hynny pan mae’r arian yn prin a does dim cyfraniad i’r trwydded – bechod yn fy marn i.

      Hoffi

  2. Roedd gan y Fenni deras (dan do) maint parchus y tu ôl i’r gôl a gafodd ei aberthu i seddi rhai tymhorau yn ôl. Pan ymwelais yn lled ddiweddar (diwrnod gorymdaith Yes Cymru ym Merthyr, jest cyn COVID) sefais ar deras 3 rhes handi yng nghysgod yr hen eisteddle mawr pren ochr y cae sydd ar gau, ond mae’r ardal honno bellach hefyd wedi’i gorchuddio efo seddi, sy’n biti. Ie, dwi’n gweld pwynt y system trwyddedu, er ei fod yn haearnaidd ar adegau, ond ymddengys nad yw cefnogwyr sy’n sefyll yn haeddu cysgod rhag y glaw!

    Hoffi

Gadael sylw

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni