Llansantffraid 2 Rhos Aelwyd 2 23/4/2024

Mae’n hawdd anghofio’r ffaith bod Y Seintiau Newydd oedd y clwb yn torri’r rhediad o bencampwriaethau gan un tîm yn dominyddu tymor ar ôl tymor yn y gorffennol. Yn 2000, sylwais i lun o’r pencampwyr cyfoes ar wal yn ystod fy nghyfweliad swydd gyntaf erioed, yn TNS yng Nghroesoswallt. Ches i ddim y swydd, ar ôl ddau gyfweliad, broses digon hir a thorcalonnus i baratoi fy hun am weld Y Seintiau’n diflasu’r cefnogwyr clybiau eraill. Ond do’n ni ddim yn gwybod hyn ar y pryd, dim ond diolchgar am rywun, unrhywun o gwbl, yn peidio un bencampwriaeth am fynd i’r Barri eto. Aeth y teitl i Llansantffraid, ac aeth sawl mwy yno hefyd. Ond mae pethau’n wahanol yno rŵan wrth gwrs…

Mae atgofion yn bwrw cysgod hir yn Llansantffraid. Roedd y cydsoddiad rhwng TNS a Chroesoswallt yn 2003, a’r symudiad i Neuadd y Parc yn 2007, ond roedd hi’n bosib dod o hyd gwirfoddolwyr yn hapus i feirniadu’r Seintiau yn ystod fy ymweliad cyntaf i Llansantffraid yn 2021. Hwn oedd noson ryfedd beth bynnag, y gêm olaf yng Nghymru cyn egwyl am fis i bêl-droed oherwydd y cyfyngiadau olaf Covid. Mi gaeth bêl-droed a chlybiau nos eu gwahardd ond dim byd eraill, ond mae gen i ddiddordeb yn dim ond un ohonyn nhw. Roedd eu gêm yn erbyn Aber-miwl yn un adloniant, 6-2 i’r tîm gartre, felly ro’n i’n gobeithio am rywbeth tebyg heno heb y tristwch.

Mae’r gemau’n dod yn aml ym mis Ebrill. Daeth Rhos Aelwyd i Dreflan yn Ardal North East, dim ond ddeg diwrnod ers chwarae yn erbyn ei gilydd yn Rhos. Enillodd Rhos 2-0 ond roedd hi’n dal yn anodd rhagweld yr enillydd heno, efo dim ond un pwynt yn cadw Rhos uwchben Llansantffraid. Mae’r ddau glwb yn saff ynghanol y tabl ond bydd Llansantffraid yn hapusach na’r ymwelwyr. Mi ddaeth Rhos yn 6ed yn yr un adran y llynedd felly bydd hi’n anodd gorffen mor uchel eto. Dyma’r tymor cyntaf yn yr ardal i Llansantffraid ar ôl ddyrchafiad, wedi’i ennill oherwydd y broses trwydded ar ôl iddyn nhw ddod yn 3ydd yn lefel 4. Maen nhw wedi gwneud yn dda i fod yn saff o’r cwymp, ond daethon nhw i’r gêm heb fuddugoliaeth yn saith gêm. Roedd y cyflwr Rhos yn well, gan gynnwys gêm gyfartal yn erbyn Penrhyncoch, y pencampwyr tebygol.

Ar ôl ymweliad cyflym i’r clwb cymdeithasol, ble dw i’n meddwl rhai pobl oedd yn yfed ar ôl angladd, aethon ni i’r eisteddle. Mae eisteddle mawr tu ôl y gôl, ond mae arwyddion o broblemau achos rhai pobl wedi torri rhes o seddi, rhywbeth rhy gyffredin yn bêl-droed lleol. Penderfynon ni i sefyll tu ôl y seddi, a gwelon ni hanner cyntaf fywiog iawn. Roedd y ddau dîm yn awyddus i ymosod o’r munud cyntaf, efo angen arbediad da gan David Jones, gôl-geidwad Llansantffraid, ac un cyfle arall ble’r ymosodwyr Rhos rhwystrodd ei gilydd. Roedd Llansantffraid yn agos unwaith yn benodol wedi rhediad troellog cyn iddyn nhw daro’r trawst – basai hynny fod wedi bod yn gôl anhygoel. 

Yn araf dechreuodd Rhos ddominyddu, ac allai’r tîm gartre ddim yn cadw Rhos allan. Daeth y cyntaf wedi 36 munud gan James Haynes, wedi’i helpu gan wyriad bach. Roedd Rhos yn awyddus i fanteisio ar gyfnod cryf, a daeth yr ail o gic rydd wedi 44 munud gan Aled Bayley, wedi’i helpu gan wyriad enfawr y tro ‘ma, yn gadael David Jones yn gweiddi cyn i’r bêl guro’r rhwyd. Perfformiad perffaith oddi cartref… ond roedd digon o amser i orfodi cic rydd eu hunain gan Llansantffraid. Efo cic olaf yr hanner, curodd James Clewlow ergyd fel bwled i adael rhywbeth i gydio wrth ar yr egwyl.

Do’n i ddim yn disgwyl pethau i newid pa mor gyflym wedi’r egwyl. Yn syth ar ôl y gic gyntaf, aeth bas drwy’r canol yn gadael ras rhwng gôl-geidwad Daniel Roberts a Chris Aitken. Cyrhaeddodd Aitken y bêl yn gyntaf i sgorio. Doedd dim gymaint o gyffro wedi hynny, efo llawer o ymdrech ond y ddau dîm oedd yn canslo ei gilydd. Roedd gamgymeriadau gan Jones yn y gôl Llansantffraid ond, diolch byth, dim byd i golli’r gêm, a bydd y ddau dîm yn hapus i rannu’r pwyntiau. Hyd yn oed ar ôl i’r gêm fynd i’r diwedd heb gyfle gwych i gipio’r tri phwynt, roedd y gêm yn ddifyr wedi’r cyfan. Roedd hi’n bosib chwarae’r gêm heb gymaint o ymrwymiad heb bethau yn y fantol, ond daeth y reddf gystadleuol i’r arwyneb. Dylen ni ganmol y chwaraewyr.

SUMMARY SAESNEG

The spirit of TNS title triumphs casts a long shadow at Llansantffraid. The two teams could have been forgiven for not being as committed as they were. Give space to social club drinkers in case they’ve been to a funeral.


Gadael sylw

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni