Mae pethau wedi dod yn anodd i Ellesmere Rangers. Ro’n i’n yma’r llynedd i weld gêm ddi-sgôr (a heb ddigwyddiadau tan y munudau olaf) ym mis Ionawr, ble bwyta fflapjac blasus cyn y gêm oedd yr uchafbwynt. Ond er gwaetha gêm ddiflas yn yr oerfel, roedd y tymor yn eitha llwyddiannus ar y cae, yn gorffen yn 6ed yn Adran De o’r gynghrair North West Counties. Ond trodd amgylchiadau’n waeth dros yr haf; penderfynodd y clwb i adael y gynghrair (lefel 6 o’r system non-league yn Lloegr) ac yn chwarae yn y gynghrair Shropshire, oherwydd costau gweithrediad a thrafferth i ddenu hyfforddwyr efo cymhwysterau addas. Mae’n wastad yn drist i weld clybiau’n gwneud penderfyniadau anodd fel hyn, ond gobeithio maen nhw’n cyfle i ail-adeiladu ac yn cystadlu’n gryf mewn lefel isaf…
Wel, doedd hynny ddim yn digwydd. Efo dwy gêm ar ôl (falle dim ond un, dw i ddim yn siŵr os bydd y gêm oddi cartref yn erbyn Dawley yn cael ei ail-drefnu) dim ond gwahaniaeth goliau oedd yn gwahanu Ellesmere o’r safle gwaelod, ble mae cymdogion St Martin’s yn eistedd – clwb arall efo hanes heriol diweddar yn y gynghrair North West Counties. Gwelais i Ellesmere yn curo St Martin’s 7-0 llai na 3 flynedd yn ôl, ond mae’r frwydr rhwng y ddau’n hollol wahanol ar hyn o bryd! Ond hwn oedd un cyfle i newid y stori yn Ellesmere. Mae Newport (ddylen ni ddefnyddio Casnewydd i ddisgrifio’r tîm Saesnig?) yn saff yn 11eg allan o 17, heb gyfle o’r gemau ail-gyfle, ac roedd rhaid iddyn nhw setlo am gêm gyfartal 1-1 pan aeth Ellesmere yno ym mis Medi. Ar ôl 8 gêm heb fuddugoliaeth, falle cyfle i newid pethau yn erbyn ymwelwyr heb fuddugoliaeth yn bedwar gêm.
Dw i newydd ddarllen All The Wide Border gan Mike Parker, sy’n astudio hanes a hunaniaeth ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Gwelais i’r ddau ochr yma; cyn y gêm yn y clwb cymdeithasol, ble mi ges i brofiad neis gan gynnwys bwyd a diod rad (hanner peint o Neck Oil am bris rhesymol!) ond efo llun o’r frenhines ar y wal. Mae’r llyfr Parker yn cyfaddef bod Croesoswallt wedi dod yn fwy Saesnig na’r gorffennol, ond mae llawer o gefnogwyr Wrecsam yno o hyd. Falle mae’r ffin yn Ellesmere yn dal yn y fantol – roedd criw o arddegau yno’n creu sŵn uchel i gefnogi’r tîm gartre, gan gynnwys drwm wedi gwneud allan o fwced, caneuon fy mod i’n adnabod o Wrecsam (gan gynnwys fersiwn ei hun o’r gân James McClean) a dwy faner Cymru (ond un Chile ac un India hefyd!). Ro’n nhw gwisgo cymysg o grysau pêl-droed (Blackburn a LA Galaxy yn ogystal â Barcelona fel arfer) ond gallwn i deimlo’r frwydr rhwng Wrecsam ac Amwythig ar y ffin yn symud yn ôl ar ôl flynyddoedd o Amwythig yn dominyddu. Neis i weld criw o gefnogwyr ifanc yn cefnogi’r tîm yn angerddol beth bynnag, ond dw i ddim yn siŵr beth basai’r rhieni yn meddwl am eu rhegi!
Weithiau mae’n amlwg pwy sy isio’r fuddugoliaeth mwy. Roedd y perfformiad hanner cyntaf yn gampus gan Ellesmere, yn gwneud eu safle yn y tabl yn edrych yn wirion. Ro’n nhw’r tîm gwell o’r chwiban cyntaf, dylen nhw wedi sgorio yn y munud cyntaf, yn methu gwneud cyffyrddiad o flaen y gôl, ond doedd dim angen aros am amser hir i sgorio’n gyntaf. Daeth y gôl wedi pum munud, gwaith da i sbïo Louie Middleton ar y chwith mewn gofod, a gyrru pas yn croesi’r cae ato fo, cyn iddo fo lithro’r bêl heibio’r gôl-geidwad, ac yn gwneud y cefnogwyr ifanc yn mynd yn wyllt. Do’n nhw ddim yn fodlon efo un, yn taro’r postyn efo peniad, yn gorfodi arbediad pwysig un yn erbyn un, ac yn creu llawer o bwysau a chiciau cornel. Ar ôl i un ohonyn nhw daro’r postyn yn uniongyrchol, ac yn methu o’r adlam rhywsut, mi ges i synnwyr o’r posibilrwydd o Ellesmere yn difaru methu gymaint o gyfleoedd…
Ar ôl hanner awr daeth y pei cwstard. Mi gaeth Newport gic rydd wrth ymyl y cwrt cosbi, yn arwain i’r arbediad cyntaf gan gôl geidwad Ellesmere, ond ymhen eiliad roedd trosedd a chic o’r smotyn – dim amheuaeth. Er gwaetha’r cynnig criw ifanc i effeithio’r chwaraewr Newport, roedd o’n gallu sgorio – dyma’r lwc ar y gwaelod. Cyn bo hir daeth rhywbeth annhebyg o fywyd ar y gwaelod; ymhen dau funud sgoriodd Ellesmere eto, Middleton eto oddi ar y postyn wedi’r un bêl i agor yr amddiffyn i greu’r gyntaf. 2-1 i’r tîm gartre ar yr egwyl ac yn hollol haeddiannol.
Doedd yr ail hanner mor fywiog â’r gyntaf ond roedd y gêm yn gystadleuol, ac eto roedd y tîm gartre’n edrych yn well nag eu safle yn y gynghrair. Gaethon nhw gyfle i sicrhau’r fuddugoliaeth un yn erbyn un, wedi’i beidio gan y gôl-geidwad. Mi gaeth Newport gyfle tebyg, ond roedd yr ergyd heibio’r postyn. Hwn, a dau gyfle eraill ger y diwedd, nad oedd yn argyhoeddiadol, yn dangos yn union pam nad ydyn nhw’n debygol i adael efo’r pwyntiau. Ar ôl gyfnod tawel yn y gêm, gwnaeth asgellwr ddianc Ellesmere ar y dde i greu cyfle hawdd i “Kizza” (diolch i’r gwirfoddolwr cyfrwng cymdeithasol am hynny o leia!) ac yn rhoi’r gêm sgôr sydd wedi adlewyrchu’r perfformiad i gau tymor anodd iawn.
Er gwaetha’r tymor, dylai Ellesmere osgoi’r safle gwaelod. Wnaethon nhw ennill o gwbl tan 2024, ond wedi cael chwe buddugoliaeth yn y flwyddyn newydd, felly gobeithio byddan nhw’n dod ag hyder i’r tymor newydd wedi’r haf. Mwynhewch y traeth, mae Newport yno’n barod!
SUMMARY SAESNEG
Identity is fluid on the North Wales/Shropshire border. Ellesmere’s performance made a mockery of their position in the table, especially in the first half. Most clubs at this level could do with the group of teenage fans that came to this game, albeit with less of the language…
Mae’n hawdd anghofio’r ffaith bod Y Seintiau Newydd oedd y clwb yn torri’r rhediad o bencampwriaethau gan un tîm yn dominyddu tymor ar ôl tymor yn y gorffennol. Yn 2000, sylwais i lun o’r pencampwyr cyfoes ar wal yn ystod fy nghyfweliad swydd gyntaf erioed, yn TNS yng Nghroesoswallt. Ches i ddim y swydd, ar ôl ddau gyfweliad, broses digon hir a thorcalonnus i baratoi fy hun am weld Y Seintiau’n diflasu’r cefnogwyr clybiau eraill. Ond do’n ni ddim yn gwybod hyn ar y pryd, dim ond diolchgar am rywun, unrhywun o gwbl, yn peidio un bencampwriaeth am fynd i’r Barri eto. Aeth y teitl i Llansantffraid, ac aeth sawl mwy yno hefyd. Ond mae pethau’n wahanol yno rŵan wrth gwrs…
Mae atgofion yn bwrw cysgod hir yn Llansantffraid. Roedd y cydsoddiad rhwng TNS a Chroesoswallt yn 2003, a’r symudiad i Neuadd y Parc yn 2007, ond roedd hi’n bosib dod o hyd gwirfoddolwyr yn hapus i feirniadu’r Seintiau yn ystod fy ymweliad cyntaf i Llansantffraid yn 2021. Hwn oedd noson ryfedd beth bynnag, y gêm olaf yng Nghymru cyn egwyl am fis i bêl-droed oherwydd y cyfyngiadau olaf Covid. Mi gaeth bêl-droed a chlybiau nos eu gwahardd ond dim byd eraill, ond mae gen i ddiddordeb yn dim ond un ohonyn nhw. Roedd eu gêm yn erbyn Aber-miwl yn un adloniant, 6-2 i’r tîm gartre, felly ro’n i’n gobeithio am rywbeth tebyg heno heb y tristwch.
Mae’r gemau’n dod yn aml ym mis Ebrill. Daeth Rhos Aelwyd i Dreflan yn Ardal North East, dim ond ddeg diwrnod ers chwarae yn erbyn ei gilydd yn Rhos. Enillodd Rhos 2-0 ond roedd hi’n dal yn anodd rhagweld yr enillydd heno, efo dim ond un pwynt yn cadw Rhos uwchben Llansantffraid. Mae’r ddau glwb yn saff ynghanol y tabl ond bydd Llansantffraid yn hapusach na’r ymwelwyr. Mi ddaeth Rhos yn 6ed yn yr un adran y llynedd felly bydd hi’n anodd gorffen mor uchel eto. Dyma’r tymor cyntaf yn yr ardal i Llansantffraid ar ôl ddyrchafiad, wedi’i ennill oherwydd y broses trwydded ar ôl iddyn nhw ddod yn 3ydd yn lefel 4. Maen nhw wedi gwneud yn dda i fod yn saff o’r cwymp, ond daethon nhw i’r gêm heb fuddugoliaeth yn saith gêm. Roedd y cyflwr Rhos yn well, gan gynnwys gêm gyfartal yn erbyn Penrhyncoch, y pencampwyr tebygol.
Ar ôl ymweliad cyflym i’r clwb cymdeithasol, ble dw i’n meddwl rhai pobl oedd yn yfed ar ôl angladd, aethon ni i’r eisteddle. Mae eisteddle mawr tu ôl y gôl, ond mae arwyddion o broblemau achos rhai pobl wedi torri rhes o seddi, rhywbeth rhy gyffredin yn bêl-droed lleol. Penderfynon ni i sefyll tu ôl y seddi, a gwelon ni hanner cyntaf fywiog iawn. Roedd y ddau dîm yn awyddus i ymosod o’r munud cyntaf, efo angen arbediad da gan David Jones, gôl-geidwad Llansantffraid, ac un cyfle arall ble’r ymosodwyr Rhos rhwystrodd ei gilydd. Roedd Llansantffraid yn agos unwaith yn benodol wedi rhediad troellog cyn iddyn nhw daro’r trawst – basai hynny fod wedi bod yn gôl anhygoel.
Yn araf dechreuodd Rhos ddominyddu, ac allai’r tîm gartre ddim yn cadw Rhos allan. Daeth y cyntaf wedi 36 munud gan James Haynes, wedi’i helpu gan wyriad bach. Roedd Rhos yn awyddus i fanteisio ar gyfnod cryf, a daeth yr ail o gic rydd wedi 44 munud gan Aled Bayley, wedi’i helpu gan wyriad enfawr y tro ‘ma, yn gadael David Jones yn gweiddi cyn i’r bêl guro’r rhwyd. Perfformiad perffaith oddi cartref… ond roedd digon o amser i orfodi cic rydd eu hunain gan Llansantffraid. Efo cic olaf yr hanner, curodd James Clewlow ergyd fel bwled i adael rhywbeth i gydio wrth ar yr egwyl.
Do’n i ddim yn disgwyl pethau i newid pa mor gyflym wedi’r egwyl. Yn syth ar ôl y gic gyntaf, aeth bas drwy’r canol yn gadael ras rhwng gôl-geidwad Daniel Roberts a Chris Aitken. Cyrhaeddodd Aitken y bêl yn gyntaf i sgorio. Doedd dim gymaint o gyffro wedi hynny, efo llawer o ymdrech ond y ddau dîm oedd yn canslo ei gilydd. Roedd gamgymeriadau gan Jones yn y gôl Llansantffraid ond, diolch byth, dim byd i golli’r gêm, a bydd y ddau dîm yn hapus i rannu’r pwyntiau. Hyd yn oed ar ôl i’r gêm fynd i’r diwedd heb gyfle gwych i gipio’r tri phwynt, roedd y gêm yn ddifyr wedi’r cyfan. Roedd hi’n bosib chwarae’r gêm heb gymaint o ymrwymiad heb bethau yn y fantol, ond daeth y reddf gystadleuol i’r arwyneb. Dylen ni ganmol y chwaraewyr.
SUMMARY SAESNEG
The spirit of TNS title triumphs casts a long shadow at Llansantffraid. The two teams could have been forgiven for not being as committed as they were. Give space to social club drinkers in case they’ve been to a funeral.
Oherwydd y ras ar frig y tabl, a’r nifer o gemau ar ôl oherwydd y tywydd, mae gan Cymru North wythnos brysur. Mae’r gynghrair wedi ymestyn y tymor erbyn wythnos, ac yn croesi bysedd na fasai mwy o gemau wedi gohirio. Roedd llawer o gemau wedi’u symud i gaeau 4G i adael sefyllfa hylaw. Hefyd roedd gymaint yn y fantol ar y cae beth bynnag. Basech chi’n disgwyl Treffynnon i ennill y bencampwriaeth oherwydd gemau ar ôl ble dylen nhw ennill. Tasai Fflint yn ennill yn Yr Wyddgrug, bydd angen un pwynt mwy o leia gan Dreffynnon ar y dydd olaf i sicrhau’r bencampwriaeth (efo Treffynnon yn ennill un awr yn hwyrach heno). Ond fel arfer mae pethau’n fwy cymhleth yng Nghymru…
Mae’r broses o gael trwydded i gael dyrchafiad yn un dadleuol. Dw i’n cytuno efo’r syniad oherwydd yr angen i godi safonau ym mhob adran, ond dydy’r broses ddim yn teimlo’n hollol agor, a gallech chi’n dweud bod hi’n deg i adael un tymor i glybiau newydd i gyrraedd y safonau ar ôl dyrchafiad. Mae Treffynnon wedi methu’r broses, dydyn nhw ddim yn apelio, ac mae Fflint ac Airbus wedi llwyddo, felly er bosibilrwydd cryf o weld y tlws yn mynd i Dreffynnon, mae aneliad gwahanol i Fflint. Roedd y gêm yn Yr Wyddgrug yn un wrth gefn, a basai buddugoliaeth Fflint yn golygu dim siawns i Airbus, ac yn gadael cyfle i Fflint ar y cae ond yn ennill dyrchafiad oddi ar y cae ar yr un pryd! Mae hynny wedi digwydd yn y gorffennol mwy nag unwaith, dw i’n cofio Derwyddon Cefn yn sicrhau dyrchafiad o’r ail safle cyn iddyn nhw golli 7-0 i’r pencampwyr Caernarfon. Ond edrychwch ble mae Caernarfon a Derwyddon rŵan – weithiau mae methiant yn creu rhywbeth cryfach yn y dyfodol.
Beth bynnag sy’n digwydd mae Sir Fflint wedi dominyddu’r gynghrair, yn cymryd safleoedd 1-4 yn y tabl. Doedd Yr Wyddgrug byth yn y ras i ennill y gynghrair ond maen nhw wedi cael tymor llwyddiannus. Mae safle pedwerydd yn berfformiad positif iawn ganddyn nhw, ac maen nhw’n edrych ymlaen at y gêm derfynol o’r cwpan Gwasanaeth Gwaed Genedlaethol ar yr 20fed yn erbyn Briton Ferry. Bydd y gêm yn heriol iawn yn erbyn y tîm sydd wedi sicrhau eu lle yn yr Uwch Gynghrair y tro nesa. Oedd hi’n bosib gallai’r chwaraewyr Yr Wyddgrug yn mynd yn haws i achub eu hunain am y gêm derfynol a dim byd ar ôl i ennill yn y gynghrair? Rhywbeth i ystyried – basech chi’n disgwyl Fflint i eisiau’r fuddugoliaeth yn fwy.
Gorfododd Yr Wyddgrug gic cornel yn y munud cyntaf ond roedd rhaid iddyn nhw dreulio gweddill yr hanner yn amddiffyn. Mi gaeth Fflint ddau gyfle i sgorio yn y deg munud cyntaf, peniad yn erbyn y trawst gan Akpa-Akpro ble dylai fo wedi sgorio, ac un arall wedi’i chlirio oddi ar y llinell. Roedd ergydion agos dros y trawst gan Ben Hughes a Jake Phillips hefyd cyn y moment mawr. Mewn cwrt cosbi brysur, gwelodd y dyfarnwr llawio gan amddiffynnwr Yr Wyddgrug. Ymddangosodd y penderfyniad yn llym, ond nad oedd Josh Jones yn poeni am hynny, i adael Fflint ar y blaen yn ystod hanner amser.
Roedd Yr Wyddgrug yn fywiog ar ôl yr egwyl, yn creu gofod ar y dde a Fflint oedd yn lwcus i ddianc dwywaith heb gosb, yn enwedig y tro cyntaf ble roedd y bêl yn sownd dan y traed ymosodwyr Yr Wyddgrug. Dyma amser peryglus ar y gwrthymosod wrth gwrs, ac aeth yr ail gôl gan Elliott Reeves wedi tafliad hir ar ôl 65 munud. Chwarae teg i’r Wyddgrug achos roedd angen dau arbediad gan Rhys Williams yn y munudau wedyn. Daeth y prif sgoriwr Danny Warren ar y cae wrth Yr Wyddgrug yn teimlo’n hyderus (pam nad oedd o’n dechrau?)…ond roedd Fflint yn barod i fanteisio ar ei dulliau ymosodol. Sgoriodd Josh Jones ei ail wedi 73 munud â foli anhygoel oddi ar y postyn. Llawer o amser iddo fo gyflawni hatric, a gwnaeth o hynny yn amser ychwanegol tra’r amddiffyn yn blino. Felly mae Fflint yn gallu dathlu dyrchafiad efo gêm ar ôl er amgylchiadau anfodlon, ond byddan nhw’n gobeithio am golled Treffynnon ar nos Wener i gipio’r bencampwriaeth. Mae’r sefyllfa yno wedi dod hyd yn oed mwy cymhleth oherwydd damwain meddygol yn achosi eu gêm yn erbyn Llanidloes i beidio – rhaid iddyn nhw drio eto rhywbryd.
Noson dda iawn ym Mharc Alyn ble mae’r tîm gartre yn gallu bod yn hapus efo eu hymdrechion er y sgôr – pob lwc yn dod â’r tlws i’r Gogledd dros y penwythnos! A diolch am ddarparu teganau a llyfrau lliwio yn y clwb cymdeithasol – mae fy merch wedi mwynhau rheina.
SUMMARY SAESNEG
The constant off-field shenanigans of Welsh football made this game more live than it would otherwise have been. Flint dominated despite Mold’s hard work, but were more clinical when counter attacking. The toys and colouring books in the social club were a nice touch.
Mae tensiwn yn cynnyddu ac mae nerfau’n crynu wrth Wrecsam yn agosáu at ddyrchafiad eto. Mae’r tymer ar gyfrwng cymdeithasol yn un gobeithio am ddim ond gwneud y swydd heb gymaint o ffys a phroblemau. Falle llai o ffys na’r gêm oddi cartref yn erbyn Colchester dros y penwythnos. Roedd angen gôl brin yn hwyr gan Max Cleworth i sicrhau’r tri phwynt, ac roedd materion dadleuol i drafod. Yn gyntaf, roedd sôn gan Danny Cowley, rheolwr Colchester, am chwaraewyr Wrecsam yn ymladd yn y tynal wedi’r hanner cyntaf, ond baswn i’n awgrymu dylai fo canolbwyntio ar ei chwaraewyr ei hun. Yn ail, mae Paul Mullin wedi cwyno am gefnogwyr Wrecsam yn canu am gyflwr gwael oddi cartref y tîm. Mae cefnogwyr yn awyddus i amddiffyn y gân, yn dweud ei bod hi’n eironig, ond dw i’n cytuno â Mullin. Mae cefnogwyr Wrecsam yn tueddu gorymateb i’r colledion, felly does dim byd eironig yno, yn enwedig achos mae’r cyflwr oddi cartref yn 5ed yn y gynghrair. Bydd angen iddo fo groen trwchus os mae cyflwr yn dod yn wael mewn gwirionedd, dydy Mullin ddim wedi clywed camdriniaeth waethaf y cefnogwyr. Ond mae o’n gywir am y gân, a does dim rhaid iddo fo gyfiawnhau mynegi ei farn.
Ro’n i’n ystyried gêm yn y Cymru North ond wrth ystyried y tywydd, sydd wedi achosi’r gemau’n cael ei ohirio beth bynnag, a’r cynnig o’r tocyn sbâr, gwnes i baratoi am y gwynt a glaw, dan do diolch byth, i fynd i Wrecsam eto (gwaith da i’r staff Wrecsam am gadw’r gêm yn addas i chwarae wedi’r tywydd a’r nifer o gemau’n ddiweddar). Mae’n bosib hwn oedd fy ngêm olaf yno’r tymor ‘ma, felly mae’n teimlo fel y penderfyniad cywir. Roedd y gêm ar ôl yn un bwysig i ennill, i greu bwlch rhwng Wrecsam a’r cystadleuwyr Milton Keynes, ond doedd dim byd hawdd am y her i ennill y pwyntiau. Mae Crawley yn ymladd i ymestyn eu tymor, yn dechrau’r diwrnod yn y safle ail-gyfle olaf, felly basai unrhyw fath o fuddugoliaeth yn ddigon da (tebyg i’r buddugoliaeth 1-0 oddi cartref).
Falle dylwn i wedi bod yn fwy uchelgeisiol. Dechreuodd Crawley fel tîm llawn o hyder, yn gyfforddus ar y bêl, hapus i basio oddi wrth yr amddiffyn, ac yn ymestyn amddiffyn Wrecsam, ond heb drafferthu Arthur Okonkwo yn y gôl. Pan ddaeth y gôl agored i Wrecsam wedi 21 munud mi ddaeth o allan o nunlle, efo pêl hir yn dod o hyd y sgoriwr annhebygol Ryan Barnett ar y postyn pellach. Ymhen ddau funud daeth yr ail ar ôl symudiad gwych rhwng Barnett, Andy Cannon a, pwy arall, Paul Mullin. Roedd gweddill yr hanner yn gyfforddus i Wrecsam, a jyst cyn yr egwyl dylai Ollie Palmer wedi penio’r trydydd pan gallai’r gôl-geidwad dim ond gwylio’r pêl mynd heibio’r postyn.
Mae pobl yn dweud bod 2-0 yn fantais beryglus, ond dydy hynny ddim yn wir ar noson fel hyn. Roedd Crawley yn awyddus i barhau efo’r cynllun, a dw i wedi gweld timau gwaethach yn fy mywyd. Gwnaethon nhw orfodi dau arbediad gan Okonwko hefyd, un o bell, un arall pan frwydrodd Wrecsam i glirio’r bêl. Ond mae gan bawb cynllun tan iddyn nhw gael trawiad yn y geg. Daeth y trawiad efo 15 munud ar ôl, wedi’r cyflwyniad Steven Fletcher, pan wnaeth y gôl-geidwad llanast oddi wrth ergyd Elliot Lee i adael cyfle i Andy Cannon – dylai fo wedi gwneud yn well efo hynny hefyd. Roedd Paul Mullin yn gallu rhwbio halen yn y briw wedi 82 munud hefyd, wedi camddeall rhwng amddiffynnwr a’r gôl-geidwad i’w adael Mullin un yn erbyn un, i gyflawni buddugoliaeth hollbwysig. Os dych chi’n anwybyddu gôl yn amser ychwanegol gan Klaidi Lolos, ond wnaeth cefnogwyr Crawley ddim dathlu’r gôl chwaith!
Ddylech chi byth yn dathlu tan i chi wedi gwneud yn siŵr o’r wobr, ond mae Wrecsam yn agos rŵan. Mae’n bosib sicrhau’r dyrchafiad dydd Sadwrn tasai Wrecsam yn ennill ac mae Milton Keynes yn methu, ond mae’r canlyniad heno’n teimlo fel croen banana wedi’i osgoi heb broblemau o gwbl. Dim angen i ymladd â’r cefnogwyr neu gyd-chwaraewyr!
SUMMARY SAESNEG
A surprisingly fractious build up to this one with a couple of squabbles hid a huge opportunity to get most of the job done. Crawley were in great form and looked an accomplished side, but ultimately didn’t get a sniff once Wrexham hit the front. It’s hard enough against Paul Mullin without rolling the ball straight to him.
This season saw me bringing up the milestone of my 1000th football game attended, albeit it has been post-Covid that games in the Welsh system have started to dominate my time. To even know this figure indicates a certain type of personality, that of a regimented and hyper organised person right on top of things (and a total nerd). This is true to a point, but it’s amazing how carelessness and complacency can catch you out. Every day’s a school day, so here are the lessons learned in Welsh football in 2023/24, but probably forgotten all too soon.
BEWARE FUSSY STEWARDS
My children came to games a lot with me this season, and this means hyper preparation. I arrive at games with them with a backpack that makes me look like I’m scaling Everest rather than attending a sparsely attended football match in Wales. Snacks, phones, drinks in appropriate cups, ear defenders, whatever item they have decided they can’t live without today, and all the other things you need as an autism parent on the go. Naturally I slip an emergency bottle of Lowes lemonade in there because why wouldn’t you, one of the appeals of life down the leagues is being able to walk in unchallenged with your bag, when you get the Vaselined glove treatment for this in pro football. Therefore I was somewhat caught out at Connah’s Quay’s European tie at Park Hall when a couple of hired goons were there to check bags. They zoned straight in on my lemonade, insisted the bottle top had to go (blah blah blah missile policies) and I had to manage with it sloshing around. This makes me grind my teeth disproportionately despite the fact that it has been part of pro football’s killjoy policies for years. I have finally wised up and kept a loose bottle top in my jacket pocket for such eventualities. I also hesitate to say this seeing as the Racecourse stadium manager is such a nark but…on the way in there they check your bags but not your pockets, so if you want to avoid mega queues and high prices and sneak a drink in, slip it in there – at least until they start banning you for that.
DON’T RUN YOUR MOUTH
All Cymru North regulars will be fans or haters of the legendary Asa Hamilton. He’s a super player at that level, now trying his luck as player-manager of Buckley, but his behaviour is somewhat volatile, blowing a gasket at all and sundry, with a range and frequency of swearing that beggars belief. This is a topic of discussion at other clubs, I sat in front of a group of fans at Holywell who spent several minutes digging him out. I saw Buckley a few times this season but he saved his most volatile display for a home game against Airbus. He did his nut at a perceived slight and a group of people next to me were giggling. Me and one of the group looked at each other and I said “he can’t be enjoying doing this can he?” to which he replied “no…he’s my son”. Mercifully for me daddy Hamilton seems like an easy going guy and was happy to discuss his boy’s tendency to go off on one, while I thanked my lucky stars that I chose my words carefully. Asa came over to his dad after being subbed off and said “this ref’s a twat…he sent me off twice last season”. So maybe I’m not the only one with lessons to learn. I’m also mindful of what happened at Lex last season when someone in the stand criticised the referee harshly and was given a gobful by said referee’s mum.
BE CAREFUL WHERE YOU PARK
Denbigh 6 Buckley 5 was my game of the season. I hadn’t been there for a few years and ended up pouring through the turns via Nant y Garth pass on a filthy Friday night that positively screamed “a 45 year old man was pronounced dead at the scene”. But we made it with a few minutes to spare, and parked up in one of those bloody awful diagonal parking spaces opposite the ground, so bloody awful that it was a nuisance to back in due to the lack of space opposite. So I drove in forwards and forgot about it, especially as the game was such a classic. The 29 point turn that was required for me to get out again, including mounting the pavement repeatedly while trying not to hit the wall or any pedestrians, made me wonder if an 11 goal thriller was worth it, as did another driver going through Coedpoeth at 12mph. My trips to Flint were smoother, with parking planned with military precision, public transport in Wales being something you only take when you’re absolutely desperate.
LIES MAKE BABY JESUS CRY
The whole family got strong armed into going to Prestatyn v Buckley by way of having a seaside day out first. Somehow despite the best of plans it required some aggressive dad walking to get into the ground for kickoff, but we all made it. Managing a faster than usual walk, getting everyone to keep up with the speed, managing an aforementioned mega rucksack and a dog must have impaired my judgement. I had what I thought was the right money on me for all of us and then noticed that my now 12 year old daughter was subject to an entry fee of, gasp, £1. I don’t know what I was thinking but I decided to vibe it rather than muck about with bags, dog leads, wallets again and just whispered “she’s eleven, ok?”. The turnstile operator asked how old my daughter was and I answered with a breezy “eleven!” before my son, not noted for his listening skills said “NO SHE’S TWELVE” at the precise point that there seemed to be no other sound in the vicinity. Game recognises game, the turnstile operator winked and let us all in without paying the additional, oh god, ONE pound, and frankly it wasn’t worth the embarrassment. I bought more cans of Pepsi than I really wanted to make up for my sin as it’s important to pay alms, and decided not to do this again. Airbus took advantage of this by charging £4 as soon as you hit twelve but that’s on them and not me.
DRESS FOR THE WEATHER YOU’VE GOT
This really should be obvious, but the 2024 sight of women in Dryrobes with boyfriends in shorts shows that some people just aren’t listening. Plus who among us can’t say we have never picked our jackets based on the calendar rather than what is happening outside. Preparation preparation preparation. Yes you must check all three of your weather apps. Yes your coats must all have gloves in one pocket and a hat in another. You must not shy away from the bucket hat when it’s hot or you will BURN. Your umbrella must stand up to wind as well as rain (having my pathetic effort turned inside out by the wind at Chirk was a chastening experience). But if you like local football you must really think about shoes. Your Adidas Gazelles are all well and good on the terraces, but when you walk across the grassy area at Brymbo in October you will slide for several metres, and club volunteers might laugh at you (me). Ludicrously Brymbo was the venue where two boys, old enough to know better, decided to throw themselves around while shirtless and shoeless into every muddy patch they could find. This was much to my daughter’s hilarity until she discovered they had made the toilet unusable while cleaning themselves up in there. From the Premier League to Cymru Premier you can dress at Wrexham Trainer Revival, but lower than that you need Mountain Warehouse.
DON’T GO TO GAMES HUNGRY
My overwhelming memory of the years I watched Wrexham home and away was being hungry all the time. True sustenance on the road is harder, or more expensive, work than it ought to be. Footy scran has taken on a life of its own due to this, with pro clubs desperate to sell you a Katsu chicken curry and naan for £12. Maybe this is understandable for people who have travelled a long way but if you have stayed local there is no need to be taken in by this. The 2.30 or 3pm kickoff has many benefits but an underrated one means you have lunch before you leave home and tea when you get back. Anything else should be snacks only, something forgotten by clubs trying to sell you a gourmet burger for a tenner. Plus where I travel these days the experience is inconsistent. I went to Airbus aware of their slooooow food kiosk from the previous season, but decided I would fill a gap there during a game I thought would be quiet. I could have burst into tears when I saw that the kiosk had gone – how could I leave myself hungry again after those years of harsh lessons on the road? The club who gets what you need is Llangollen Town. Their £2 sausage, chips and curry sauce is the ultimate snack, enough to plug the gap, or merely eat it when you aren’t hungry, but it won’t ruin your dinner later. If you really must stuff your fat face then order two. But as you drop the leagues you’re in the lap of the gods. Some places only sell hot drinks and no cold. Some only have crisps and chocolate when you want something more substantial. Some do have substantial offerings but they are expensive. You have to take the pressure off the day by making food a bonus rather than necessary.
LIFE’S BETTER WITH DOGS
Amongst the victims of more professional setups in Welsh football are our four legged friends. Increasingly they are getting banned from grounds and this is sad – check the Non League Dogs social media and tell me they shouldn’t be there. But when I peppered the nearby Cymru North clubs to ask if dogs were welcome the only reply I got was a positive one from Prestatyn Town. We didn’t take our dog to Newtown but the match experience there was heightened by there being quite a few good boys around with their cute faces and friendly attitudes, even in the social club. But there is a responsibility required – I got home from Newtown and noticed that Aberystwyth Town announced that too many owners hadn’t picked up their dog’s mess, and now they were banned. Sometimes we don’t deserve nice things, but we must praise those clubs who still allow them.
HAVE A PLAN B
This season has seen clubs sail pretty close to the wind with postponements. Games have been called off quite late at times and you need to be aware of who else is on and, more importantly, whose grounds are bulletproof. A possible trip to Llansantffraid bit the dust and good old reliable Airbus and their 4G pitch stepped into the breach. If you’re still banging on about “plastic” in this day and age, hankering back to bobbly, muddy surfaces and knowing how easily games get postponed, you are not just a dinosaur but a maniac. Sometimes it’s best just to play safe; I had intended to cross the border to Whitchurch despite rain on and off. They said game on at 10am, I checked social media about fifty times and when 2pm came I headed there. This despite noticing Ruthin announcing their team just after half 1, the possibility that I could go there instead, and a sense of foreboding I just couldn’t shift. I arrived in Whitchurch, checked my phone…the game was called off at 2:06 with no previous communication of changing weather, a pitch inspection or anything else – unforgivable. I had to settle for the second half at Chirk while I seethed, knowing I should have listened to my heart instead of being rigid with the plan.
ANY OTHER BUSINESS
Give yourself time on the roads – there’s always a chance of being stuck behind a tractor. Make sure you have some cash, who knows just who and where will accept your card. Support match day programmes because they are dying out. Support social clubs too, I heartily recommend Penycae and Brickfield for setting these up at Tier 3 grounds when others at that level are basically just parks with a 100 seat stand plonked next to them. Two pints is the optimum pre-match beer amount, you’ll feel more unsatisfied with one than none and three means a session is underway (plus beer bladder). Don’t go to games at The Rock unless you’re a scab. If your child gets into Sum 41 during the season, let them have their music either there or back but not both, or you’ll go mad. If you find yourself at a Wales game you need to have practised your singing – the “i’r bur hoff bau” bit of Hen Wlad Fy Nhadau is really hard to reach. Most of all, amongst Welsh football’s many crises don’t let them stop you from going to the game – you let pro clubs get away with murder so apply the same grace to clubs who just want a few of your pounds and we’ll have a stronger domestic setup.