Yr Wyddgrug 0 Fflint 4 16/4/2024

Oherwydd y ras ar frig y tabl, a’r nifer o gemau ar ôl oherwydd y tywydd, mae gan Cymru North wythnos brysur. Mae’r gynghrair wedi ymestyn y tymor erbyn wythnos, ac yn croesi bysedd na fasai mwy o gemau wedi gohirio. Roedd llawer o gemau wedi’u symud i gaeau 4G i adael sefyllfa hylaw. Hefyd roedd gymaint yn y fantol ar y cae beth bynnag. Basech chi’n disgwyl Treffynnon i ennill y bencampwriaeth oherwydd gemau ar ôl ble dylen nhw ennill. Tasai Fflint yn ennill yn Yr Wyddgrug, bydd angen un pwynt mwy o leia gan Dreffynnon ar y dydd olaf i sicrhau’r bencampwriaeth (efo Treffynnon yn ennill un awr yn hwyrach heno). Ond fel arfer mae pethau’n fwy cymhleth yng Nghymru…

Mae’r broses o gael trwydded i gael dyrchafiad yn un dadleuol. Dw i’n cytuno efo’r syniad oherwydd yr angen i godi safonau ym mhob adran, ond dydy’r broses ddim yn teimlo’n hollol agor, a gallech chi’n dweud bod hi’n deg i adael un tymor i glybiau newydd i gyrraedd y safonau ar ôl dyrchafiad. Mae Treffynnon wedi methu’r broses, dydyn nhw ddim yn apelio, ac mae Fflint ac Airbus wedi llwyddo, felly er bosibilrwydd cryf o weld y tlws yn mynd i Dreffynnon, mae aneliad gwahanol i Fflint. Roedd y gêm yn Yr Wyddgrug yn un wrth gefn, a basai buddugoliaeth Fflint yn golygu dim siawns i Airbus, ac yn gadael cyfle i Fflint ar y cae ond yn ennill dyrchafiad oddi ar y cae ar yr un pryd! Mae hynny wedi digwydd yn y gorffennol mwy nag unwaith, dw i’n cofio Derwyddon Cefn yn sicrhau dyrchafiad o’r ail safle cyn iddyn nhw golli 7-0 i’r pencampwyr Caernarfon. Ond edrychwch ble mae Caernarfon a Derwyddon rŵan – weithiau mae methiant yn creu rhywbeth cryfach yn y dyfodol.

Beth bynnag sy’n digwydd mae Sir Fflint wedi dominyddu’r gynghrair, yn cymryd safleoedd 1-4 yn y tabl. Doedd Yr Wyddgrug byth yn y ras i ennill y gynghrair ond maen nhw wedi cael tymor llwyddiannus. Mae safle pedwerydd yn berfformiad positif iawn ganddyn nhw, ac maen nhw’n edrych ymlaen at y gêm derfynol o’r cwpan Gwasanaeth Gwaed Genedlaethol ar yr 20fed yn erbyn Briton Ferry. Bydd y gêm yn heriol iawn yn erbyn y tîm sydd wedi sicrhau eu lle yn yr Uwch Gynghrair y tro nesa. Oedd hi’n bosib gallai’r chwaraewyr Yr Wyddgrug yn mynd yn haws i achub eu hunain am y gêm derfynol a dim byd ar ôl i ennill yn y gynghrair? Rhywbeth i ystyried – basech chi’n disgwyl Fflint i eisiau’r fuddugoliaeth yn fwy.

Gorfododd Yr Wyddgrug gic cornel yn y munud cyntaf ond roedd rhaid iddyn nhw dreulio gweddill yr hanner yn amddiffyn. Mi gaeth Fflint ddau gyfle i sgorio yn y deg munud cyntaf, peniad yn erbyn y trawst gan Akpa-Akpro ble dylai fo wedi sgorio, ac un arall wedi’i chlirio oddi ar y llinell. Roedd ergydion agos dros y trawst gan Ben Hughes a Jake Phillips hefyd cyn y moment mawr. Mewn cwrt cosbi brysur, gwelodd y dyfarnwr llawio gan amddiffynnwr Yr Wyddgrug. Ymddangosodd y penderfyniad yn llym, ond nad oedd Josh Jones yn poeni am hynny, i adael Fflint ar y blaen yn ystod hanner amser.

Roedd Yr Wyddgrug yn fywiog ar ôl yr egwyl, yn creu gofod ar y dde a Fflint oedd yn lwcus i ddianc dwywaith heb gosb, yn enwedig y tro cyntaf ble roedd y bêl yn sownd dan y traed ymosodwyr Yr Wyddgrug. Dyma amser peryglus ar y gwrthymosod wrth gwrs, ac aeth yr ail gôl gan Elliott Reeves wedi tafliad hir ar ôl 65 munud. Chwarae teg i’r Wyddgrug achos roedd angen dau arbediad gan Rhys Williams yn y munudau wedyn. Daeth y prif sgoriwr Danny Warren ar y cae wrth Yr Wyddgrug yn teimlo’n hyderus (pam nad oedd o’n dechrau?)…ond roedd Fflint yn barod i fanteisio ar ei dulliau ymosodol. Sgoriodd Josh Jones ei ail wedi 73 munud â foli anhygoel oddi ar y postyn. Llawer o amser iddo fo gyflawni hatric, a gwnaeth o hynny yn amser ychwanegol tra’r amddiffyn yn blino. Felly mae Fflint yn gallu dathlu dyrchafiad efo gêm ar ôl er amgylchiadau anfodlon, ond byddan nhw’n gobeithio am golled Treffynnon ar nos Wener i gipio’r bencampwriaeth. Mae’r sefyllfa yno wedi dod hyd yn oed mwy cymhleth oherwydd damwain meddygol yn achosi eu gêm yn erbyn Llanidloes i beidio – rhaid iddyn nhw drio eto rhywbryd.

Noson dda iawn ym Mharc Alyn ble mae’r tîm gartre yn gallu bod yn hapus efo eu hymdrechion er y sgôr – pob lwc yn dod â’r tlws i’r Gogledd dros y penwythnos! A diolch am ddarparu teganau a llyfrau lliwio yn y clwb cymdeithasol – mae fy merch wedi mwynhau rheina.

SUMMARY SAESNEG

The constant off-field shenanigans of Welsh football made this game more live than it would otherwise have been. Flint dominated despite Mold’s hard work, but were more clinical when counter attacking. The toys and colouring books in the social club were a nice touch.


Gadael sylw

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni