Wrecsam 4 Crawley 1 9/4/2024

Mae tensiwn yn cynnyddu ac mae nerfau’n crynu wrth Wrecsam yn agosáu at ddyrchafiad eto. Mae’r tymer ar gyfrwng cymdeithasol yn un gobeithio am ddim ond gwneud y swydd heb gymaint o ffys a phroblemau. Falle llai o ffys na’r gêm oddi cartref yn erbyn Colchester dros y penwythnos. Roedd angen gôl brin yn hwyr gan Max Cleworth i sicrhau’r tri phwynt, ac roedd materion dadleuol i drafod. Yn gyntaf, roedd sôn gan Danny Cowley, rheolwr Colchester, am chwaraewyr Wrecsam yn ymladd yn y tynal wedi’r hanner cyntaf, ond baswn i’n awgrymu dylai fo canolbwyntio ar ei chwaraewyr ei hun. Yn ail, mae Paul Mullin wedi cwyno am gefnogwyr Wrecsam yn canu am gyflwr gwael oddi cartref y tîm. Mae cefnogwyr yn awyddus i amddiffyn y gân, yn dweud ei bod hi’n eironig, ond dw i’n cytuno â Mullin. Mae cefnogwyr Wrecsam yn tueddu gorymateb i’r colledion, felly does dim byd eironig yno, yn enwedig achos mae’r cyflwr oddi cartref yn 5ed yn y gynghrair. Bydd angen iddo fo groen trwchus os mae cyflwr yn dod yn wael mewn gwirionedd, dydy Mullin ddim wedi clywed camdriniaeth waethaf y cefnogwyr. Ond mae o’n gywir am y gân, a does dim rhaid iddo fo gyfiawnhau mynegi ei farn.

Ro’n i’n ystyried gêm yn y Cymru North ond wrth ystyried y tywydd, sydd wedi achosi’r gemau’n cael ei ohirio beth bynnag, a’r cynnig o’r tocyn sbâr, gwnes i baratoi am y gwynt a glaw, dan do diolch byth, i fynd i Wrecsam eto (gwaith da i’r staff Wrecsam am gadw’r gêm yn addas i chwarae wedi’r tywydd a’r nifer o gemau’n ddiweddar). Mae’n bosib hwn oedd fy ngêm olaf yno’r tymor ‘ma, felly mae’n teimlo fel y penderfyniad cywir. Roedd y gêm ar ôl yn un bwysig i ennill, i greu bwlch rhwng Wrecsam a’r cystadleuwyr Milton Keynes, ond doedd dim byd hawdd am y her i ennill y pwyntiau. Mae Crawley yn ymladd i ymestyn eu tymor, yn dechrau’r diwrnod yn y safle ail-gyfle olaf, felly basai unrhyw fath o fuddugoliaeth yn ddigon da (tebyg i’r buddugoliaeth 1-0 oddi cartref).

Falle dylwn i wedi bod yn fwy uchelgeisiol. Dechreuodd Crawley fel tîm llawn o hyder, yn gyfforddus ar y bêl, hapus i basio oddi wrth yr amddiffyn, ac yn ymestyn amddiffyn Wrecsam, ond heb drafferthu Arthur Okonkwo yn y gôl. Pan ddaeth y gôl agored i Wrecsam wedi 21 munud mi ddaeth o allan o nunlle, efo pêl hir yn dod o hyd y sgoriwr annhebygol Ryan Barnett ar y postyn pellach. Ymhen ddau funud daeth yr ail ar ôl symudiad gwych rhwng Barnett, Andy Cannon a, pwy arall, Paul Mullin. Roedd gweddill yr hanner yn gyfforddus i Wrecsam, a jyst cyn yr egwyl dylai Ollie Palmer wedi penio’r trydydd pan gallai’r gôl-geidwad dim ond gwylio’r pêl mynd heibio’r postyn. 

Mae pobl yn dweud bod 2-0 yn fantais beryglus, ond dydy hynny ddim yn wir ar noson fel hyn. Roedd Crawley yn awyddus i barhau efo’r cynllun, a dw i wedi gweld timau gwaethach yn fy mywyd. Gwnaethon nhw orfodi dau arbediad gan Okonwko hefyd, un o bell, un arall pan frwydrodd Wrecsam i glirio’r bêl. Ond mae gan bawb cynllun tan iddyn nhw gael trawiad yn y geg. Daeth y trawiad efo 15 munud ar ôl, wedi’r cyflwyniad Steven Fletcher, pan wnaeth y gôl-geidwad llanast oddi wrth ergyd Elliot Lee i adael cyfle i Andy Cannon – dylai fo wedi gwneud yn well efo hynny hefyd. Roedd Paul Mullin yn gallu rhwbio halen yn y briw wedi 82 munud hefyd, wedi camddeall rhwng amddiffynnwr a’r gôl-geidwad i’w adael Mullin un yn erbyn un, i gyflawni buddugoliaeth hollbwysig. Os dych chi’n anwybyddu gôl yn amser ychwanegol gan Klaidi Lolos, ond wnaeth cefnogwyr Crawley ddim dathlu’r gôl chwaith!

Ddylech chi byth yn dathlu tan i chi wedi gwneud yn siŵr o’r wobr, ond mae Wrecsam yn agos rŵan. Mae’n bosib sicrhau’r dyrchafiad dydd Sadwrn tasai Wrecsam yn ennill ac mae Milton Keynes yn methu, ond mae’r canlyniad heno’n teimlo fel croen banana wedi’i osgoi heb broblemau o gwbl. Dim angen i ymladd â’r cefnogwyr neu gyd-chwaraewyr!

SUMMARY SAESNEG

A surprisingly fractious build up to this one with a couple of squabbles hid a huge opportunity to get most of the job done. Crawley were in great form and looked an accomplished side, but ultimately didn’t get a sniff once Wrexham hit the front. It’s hard enough against Paul Mullin without rolling the ball straight to him.


Gadael sylw

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni