Wrecsam 2 Stockport 1 27/4/2024

Gêm derfynol y tymor i Wrecsam, un i ddathlu ac amser i fwynhau’r prynhawn heb bwysau ar y canlyniad. Gallech chi meddwl roedd mwy yn y fantol wrth wylio Stockport yn codi’r tlws League 2 wythnos diwetha; cyn-chwaraewr Caer Antoni Sarcevic yn canu cân gwrth-Wrecsam, a sawl cefnogwyr Stockport yn gorddweud am eu llwyddiant fel rhywbeth i godi cywilydd ar Wrecsam? Wel, dw i ddim yn ymwybodol am unrhyw un sy’n poeni am setlo am ddyrchafiad heb y pencampwriaeth (yn enwedig cefnogwyr Caer, Antoni), felly mae’n i weld fel bobl pêl-droed yn dangos eu penolau, fel arfer. Mae gemau yn erbyn Stockport yn annog ymddygiad fel hyn, ond dw i ddim siŵr pam. Dw i ddim yn credu bod unrhyw cefnogwr o’r ddau clwb yn ystyried y llall ar frig y rhestr o gelynion. Ond dw i ddim yn cofio unrhyw gêm yn erbyn nhw yn pasio heb ychydig o gas. Un atgof doniol oedd yn sefyll yn y Turf ar ôl gêm ac yn clywed gweiddi uchel tu allan. Ymddangosodd rhywun o flaen fy ngwyneb i weiddi “wyt ti’n mynd i ymladd i Wrecsam!!!” – edrychais ar fy mheint llawn heb ddweud un gair, ac mi aeth o i’r drws mewn tawelwch.

Dw i wedi sgwennu am benderfynu fy nghyfnod fel perchennog tocyn tymor oedd yn dod i ben yn ystod gêm gartref yn erbyn Stockport yn 2019, ac yn treulio’r ail hanner yn y dafarn. Roedd rhan o’r bai ar fomiau mwg ar y pryd, rhywbeth sydd wedi dod pwnc llosg eto rhywsut. Mi gaeth cefnogwyr eu dal efo nhw ar ôl iddyn nhw fynd ar y cae wedi’r gêm fawr yn erbyn Forest Green, ac wedi derbyn gwaharddiad o gemau. Roedd llawer o ddadl am yr amgylchiadau, ac yn y diwedd daeth Rob McElhenney i mewn i’r drafodaeth. Mae’n i weld fel y clwb wedi newid eu meddyliau am y gwaharddiadau – nid y tro cyntaf maen nhw wedi gyrru un at gefnogwyr am resymau annheg – ond y tro cyntaf mae’r perchnogion wedi achub rhywun sydd wedi ymddangos yn y rhaglen dogfen. Llawer i bigo yno, yn enwedig gan bobl yn hongian baneri gwrth Fleur Robinson nos Wener, ond cyn y gêm ‘ma roedd y clwb yn awyddus i gyhoeddi eu bwriad i gosbi unrhyw un yn trio rhywbeth tebyg eto. Basai hi wedi bod yn bositif i glywed rhywbeth arall am y penderfyniad i ddiddymu ail gemau yn y Cwpan FA, ond byddwch chi’n aros am amser hir i glywed unrhyw beth gwrth yr awdurdodau gan glwb dan reolaeth Shaun Harvey wrth gwrs…

Rhai pethau annisgwyl i gychwyn, ro’n i’n disgwyl Phil Parkinson i ddewis chwaraewyr yn debygol i adael y clwb, ond dechreuodd y tîm cryfach, gan gynnwys Luke Young oherwydd anafiad George Evans, ond Ben Tozer a Mark Howard ar y fainc, a dim byd o gwbl i Aaron Hayden neu Jordan Tunnicliffe. Roedd pawb yn disgwyl yr awyren yn cario neges cefnogwyr Stockport i ni ond dw i ddim yn deall y rheswm am hynny achos does neb yn gallu ei ddarllen! Roedd hi’n annisgwyl i weld hanner cyntaf mor dda gan Stockport chwaith. Roedd cyfleoedd i Ollie Palmer i Wrecsam, un ar ôl i Ben Hinchcliffe ddod allan o’r gôl heb gosb, ac un arall wedi symudiad da rhwng Cleworth, Barnett a Cannon. Ond roedd hi’n anodd am weddill yr hanner, efo Stockport yn edrych yn daclus a bywiog. Collodd Sarcevic un yn erbyn un ond doedd dim dianc am amser hir. Sgoriodd Connor Lemonheigh-Evans pan agorodd yr amddiffyn wedi hanner awr, a pherderfynodd o dilyn patrwm y dydd gan dathlu o flaen y cefnogwyr Wrecsam heb edrych ar ei gefnogwyr ei hun o gwbl – tipyn bach yn gwirion.

Roedd angen i ail-drefnu yn ystod yr egwyl a daeth yr effaith yn syth wedi’r ail-gychwyn. Daeth pas wych drwy’r canol i ddod o hyd Ollie Palmer yn yr ail munud, ac roedd o’n cryf a gosteg cyn iddo fo orffen i newid y gêm. Heblaw un cyfnod ble Stockport ergydiodd heibio’r postyn yn agos, roedd yr ymwelwyr yn hapus i fod yn amyneddgar heb gymaint o berygl, ac mi gaeth Wrecsam fwy o feddiant peryglus na’r hanner cyntaf. Ond ro’n ni’n disgwyl gêm gyfartal pan, allan o nunlle, daeth ergyd pwerus gan Andy Cannon i gipio’r tri phwynt. Ar y pryd ro’n i’n siarad amdano fo fel fy chwaraewr y tymor, fel arfer dw i ddim yn edrych pa mor clyfar!

Erbyn y diwedd doedd dim byd yn y fantol ar ôl heblaw cystadleuaeth canu, “Champions Again” v “It Took You Two Years”. Er gwaetha’r sylwadau gwirion cyn (ac yn ystod!) y gêm gallech chi deimlo awyrgylch gwell nag arfer, yn gadael y ddau dîm i dderbyn llongyfarchiadau oddi wrth eu cefnogwyr. Falle bydd yr ymddygiad gwael yn dychwelyd yn League 1 ond mae’n well hebddo fo. Roedd canol y dref yn gorlawn ac yn barod am barti arall – mwynhewch!

SUMMARY SAESNEG

Not the game for a slightly fractious week but it was a nicer atmosphere than usual against Stockport. A game of two halves settled by a thunderous strike. It’s unusual to look as smart as when you discuss your player of the season and he immediately scores.


Gadael sylw

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni